Anfynych iawn y byddai yn absenol o'r cyfeillachau eglwysig yn y gwahanol fanau oeddynt dan ei ofal; ac nid pethau bychain eu pwys a'i hataliai i fyned iddynt; o herwydd ei farn ef ydoedd,—mai dyma rai o'r cyfleusderau goreu i fagu̟ a meithrin pobl ei ofal mewn gwybodaeth a phrofiad crefyddol. Ar ol rhoddi rhyw fras ddarlun o Mr. Jones yn y cyfarfodydd crybwylledig, nis gallwn lai na chwanegu gair ymhellach am
EI OFAL AM BOBL IEUAINGC.
ag oeddynt yn aelodau eglwysig dan ei weinidogaeth, a'i serchawgrwydd tuag atynt. Pe byddai i bob un o honynt hwy ag sydd yn awr yn fyw i gael y cyfleusdra presenol i fynegu eu tystiolaeth ar y mater hwn i ryw ysgrifenydd buan, diameu y byddai cyfanswm eu tystiolaethau yn rhy helaeth i fod yn rhan o'r Cofiant hwn. Nid yn unig yr oedd Mr. Jones ei hun yn ofalus am danynt, ond dysgai eraill hefyd i fod o'r un yspryd ag yntau. Cyfeiria'r ysgrifenydd at y cyfnod a grybwyllwyd eisoes am engraifft neu ddwy o dynerwch yr Athraw mwyn tuag ato fel bachgen ieuangc. Nis gall byth annghofio y noson gyntaf y ceisiodd efe ddweyd ychydig, yn ol cais yr eglwys a'r Gweinidog, ar ryw ran neillduol o'r ysgrythyr fel testyn pregeth. Pan oedd efe bron yn methu myned rhagddo gan wyleidd-dra ac ofn, gwnelai Mr. Jones bob agwedd arno ei hun a fyddai fwyaf er calondid i'r llencyn gwan ofnus. Fel prawf neillduol o'i ofal ef a'i gyfeillion rhag ei ddigaloni, dywedai wrtho yn mhen ryw wyth mlynedd ar hugain wedi hyny, ar y ffordd wrth fyned adref o'r capel, "Evans, y mae arnaf chwant dweyd wrthych ryw air bach na fynegais ef erioed o'r blaen i chwi." "Beth yw hyny, Mr. Jones?" " Wel, yn wir, ni waeth i chwi gael ei wybod bellach na pheidio, gan na bydd hyny ddim yn un digalondid na phrofedigaeth i chwi, ond yn hytrach yn achos diolch i'r Arglwydd. Yr ydych yn cofio yn dda, mi wn, am yr amser y buoch ar gais y cyfeillion a minau, yn dweyd ychydig y tro cyntaf erioed yn y Society ar adnod fel testyn pregeth." "Ydwyf," ebe'r ysgrifenydd, "yn cofio yn dda, a mi a gofiaf hyny byth hefyd. Beth yw'r