Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

secret sy' genych i'w fynegu i mi Mr. Jones? Dywedwch wrthyf, os gwelwch yn dda." "Wel, a dweyd y gwir i chwi yn onest, bu gryn amheuaeth ar ein meddwl y pryd hwnw a oeddym wedi gwneyd yn iawn â chwi trwy eich cymell i feddwl am fod yn bregethwr; ond rywfodd neu gilydd, darfu i ni gyduno i beidio amlygu dim o'r amheuaeth hwnw i chwi ar y pryd, rhag tori eich calon. Yr oeddwn yn meddwl am hyny yn y capel heno." Methodd yr ysgrifenydd ag ymatal rhag colli ei ddagrau yn wyneb y fath diriondeb tuag ato, a'r fath ofal am ei deimladau. Cafodd yr un caredigrwydd hefyd oddiar law yr hen bererin Richard Jones o Lwyngwril.

Yn awr, wedi i ni ymdroi gryn amser yn y cyfeillachau eglwysig gyda Mr. Jones, a sylwi hefyd ar ei ofal am bobl ieuaingc, ni a ddaliwn ar y cyfleusdra i ddweyd gair am dano yn

EI GYMERIAD FEL YMRESYMYDD.

Ni chyfeiriwn ato fel y cyfryw ond yn unig yn ei ymddyddanion yn mhlith ei gyfeillion dan ei weinidogaeth. Yr oedd ynddo gymhwysderau nodedig i hyn, sef-ei ddirnadaeth glir-ei iaith eglur a dealladwy i osod allan ei syniadau—ei bwyll a'i hunan-feddiant hyd yn nod yn nghanol poethder dadl -ei foneddigeiddrwydd at ei wrthddadleuydd, gan roddi iddo bob chwareu teg i ateb trosto ei hun-a'i amcan bob amser fyddai cael allan y gwirionedd.

Arferai ag ymgomio â nifer o'r brodyr yn nhŷ y capel ar ol yr oedfaon y rhan fynychaf, yn enwedig yr amser y dechreuyrodd yr hyn a elwid "System Newydd" ddyfod i sylw. Ofnai yr hen gyfeillion fod rhyw ychydig o'i sawyr ar ei weinidogaeth yntau hefyd, a mawr oedd eu pryder rhag iddo wyro oddiwrth y wir athrawiaeth. Côf genym am yr adegau dedwydd hyny pan yr eisteddem yn eu plith i wrandaw ar eu hymresymiadau. Nid oedd yno neb, mae'n wir, a allai ymgystadlu â Mr. Jones fel ymresymydd; ond ni chymerai ef arno amlygu ei nerth fel y cyfryw hyd oni byddai pob un wedi cael cyflawn ryddid i fynegu ei feddwl; oblegid yr oedd yn dra gofalus bob amser rhag gormesu ar hawlfraint Ꭹ frawdol-