Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/134

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn sydd yn peri fod dyn yn greadur cyfrifol i Dduw ?" "Dyna rai pethau," ebe rhywun,—"Bod dyn wedi ei greu yn greadur rhesymol, ac nid fel yr anifail;—ei fod wedi ei gynysgaeddu â moddion gwybodaeth, sef y Datguddiad Dwyfol;—a thrachefn, ei fod yn rhyddweithredydd yn ei ddewisiad a'i wrthodiad o'r hyn a osodir o'i flaen, heb fod gan neb drais yn y mesur lleiaf ar ei feddwl." "Wel, waeth i chwi heb son am 'allu dyn,'" ebe Huw, "ni ddaw o byth i wneyd ei ddyledswydd, os na ddygir ef gan Yspryd yr Arglwydd." "Ie, Huw bach, yr wyt ti yn dweyd y gwir; ond yn wyneb hyn’a y gwelir mawredd gras Duw yn dwyn y pechadur, a hyny o’i fodd, i'w garu a'i wasanaethu." Erbyn hyn yr oedd yn llawn bryd i bawb gychwyn tuag adref.

Yn gyffelyb i hyn hefyd yr ymdrinid âg aberth Crist, yn enwedig yn mherthynas i'w natur a'i helaethrwydd. Gyda'r fath bwyll, deheurwydd, a thiriondeb y dygai Mr. Jones yn mlaen ei ymresymiadau yn y cyfryw gyfleusderau, fel yr ennillodd efe ei brif ddynion yn gwbl i'r un syniadau ag ef ei hun, heb wneyd un terfysg, ac heb ormesu dim yn y gradd lleiaf ar eu rhyddid personol i farmu trostynt eu hunain, felly y byddai efe yn y manau eraill hefyd ag oedd dan ei ofal gweinidogaethol. Mynych y treuliai oriau, yn enwedig yn Rhydymain, i ymbyncio â'i gyfeillion ar ryw faterion neu gilydd; a diau genym yr adgofiant hyny gydag hyfrydwch tra byddont byw. Bu yr arferiad hwn yn fendithiol i'w magu a'u mheithrin mewn gwybodaeth dduwinyddol.

Y peth nesaf y sylwn arno yn mherthynas i Mr. Jones ydyw

EI DDULL SERCHOG O YMGYFARCH.

Edrychir ar hyn gan lawer, ïe, bron gan bawb yn rhan bwysig iawn o swydd gweinidog yr efengyl. Mae edrychiad siriol, gydag ysgydwad llaw mewn modd serchog, yn cyrhaedd ymhell gyda llawer i wneyd y pregethwr yn boblogaidd ganddynt, yn fwy felly gyda rhyw ddosbarth na hyd yn nod ei bregethau goreu. Nid adwaenem neb ag oedd ragorach yn hyn na Mr. Jones. Nid rhyw serchawgrwydd arwynebol oedd