Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/135

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo ef er mwyn gwneuthur ei hun yn boblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd efe yn wir serchog. Natur ydoedd wedi ei santeiddio gan grefydd. Ni adawai i neb o'i gydnabod i'w basio ar y ffordd heb droi ato i ysgwyd llaw ag ef, ac i'w holi am y teulu. Os dygwyddai ei fod wedi annghofio enwau aelodau y teulu hwnw, byddai yn ddigon sicr o ymddyogelu rhag dangos ei anngof o hyny trwy ofyn i'r cyfryw fel hyn, "Sut y mae nhw acw?" Gwyddai yn dda fod gan bawb ei "acw," pa un bynag ai gwr ai gwraig, ai gwas ai morwyn fyddai. Llawer gwaith yr achubodd efe ei ben wrth wneuthur felly; a pha niwed fyddai i ereill ddilyn ei esiampl yn hyn, pan fyddo gwir angenrheidrwydd am dano yn hytrach na thramgwyddo cymydogion a chyfeillion gweiniaid? Cof genym i ni ddygwydd unwaith fyned gydag ef o Gefnmaelan i'r dref ar ddiwrnod ffair. Ar ein mynediad i'r heol gyntaf ynddi, dyna Mr. Jones yn estyn ei law i rywun, gan holi pa fodd yr oeddynt, a pha sut yr oedd y teulu gartref;-ac wedi myned ychydig latheni yn mlaen, dyna rywrai etto yn ei gyfarch, ac felly y cyfarfyddai yn ddibaid a'i gyfeillion, ac a'i gydnabod, nes o'r diwedd y pallodd ein hamynedd yn lân, ac y gadawsom ef yn eu canol hwynt. Yr un modd y gwnelai wrth fyned i'r gwahanol leoedd ereill hefyd oedd dan ei ofal. Effeithiodd yrarferiad hwn gymaint hyd yn nod ar yr anifail a arferai ei gario, fel y safai hwnw o hono ei hun yn gyffredin wrth gyfarfod a dynion ar y ffordd. Dwg hyn ar gofi ni hanesyn a welsom am farch y dyn dyngarol nodedig hwnw y diweddar Barchedig Richard Knill, pan oedd efe yn aros yn St. Petersburg; yr hwn yn ei dosturi a ymwelai yn fynych â holl elusendai y ddinas fawr hono. Cafodd cyfaill iddo fenthyg ei geffyl ryw foreu i roddi tro drwy y ddinas er mwyn ei ddifyrwch. Tröai y ceffyl er gwaethaf ei farchog dyeithr at bob elusendy a fyddai ar ei ffordd, ïe, ni chymerai ei rwystro, o herwydd ei gynefino i hyny gan ei feistr. Yn gyffelyb i hyn yr oedd anifail Mr. Jones, o Ddolgellau, wedi cynefino cymaint a sefyll wrth gyfarfod a dynion, fel y buasai bron yn anmhosibl i wr dyeithr ei yru rhag ei flaen yn ddiymdroi; a mwy na hyny hefyd,