Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cawsai gryn waith ymgadw rhag myned i dymer ddrwg yn gyffelyb i Balaam at ei asen. Ac os felly y dygwyddai fod, buasai gan yr anifail eithaf dadl drosto ei hun,—"Oni arferais i wneuthur fel hyn?"

Nis gallwn deimlo yn ddedwydd i roddi heibio ein hysgrifell cyn mynegu hefyd ein hadgofion am Mr. Jones yn

EI FFYDDLONDEB I'W GYHOEDDIADAU.

Rhinwedd nid bychan mewn pregethwr ydyw hyn. Y fath oedd iechyd a chryfdwr corphorol Mr. Jones fel na atelid ef gan un math o dywydd, na haf na gauaf, i fyned at ei gyhoeddiad. Ni ddaliai ef ar y gwynt, ac nid edrychai ar y cymylau i chwilio am esgusion rhag myned allan i waith y cynhauaf mawr. Edrychwn arno yn awr, pan y mae ar gychwyn o'i gartref ar foreu Sabboth gwlybyrog. Dacw fe yn dechreu ymbarotoi yn bwyllus, gan wisgo ei socasau hirion i ymddyogelu rhag cael niwed oddiwrth y ddrycin. Pan ar ganol eu bottymu, dywedir wrtho, "Meistr, y mae hi yn dywydd mawr annghyffredin; mae hi yn tywallt y gwlaw yn genlli." "Mi feddyliwn," ebe yntau yn dawel, "ei bod hi yn bwrw braidd (!). Hwyrach y daw hi yn well bob yn dipyn." Cyn hir, ymwisga yn ei gôt fawr lwydwen, yr hon a gyrhaeddai bron hyd at ei draed, a gosodai fantell drwchus ar hono drachefn. Dyma fo yn awr, ys dywed y Sais, yn Waterproof drosto. Esgyna ar ei anifail, ac ymaith ag ef tuag Islaw'rdre, wrth odre Cader Idris. Cyrhaedda yno yn lled sych a dyogel, ond ei fod ryw ychydig funudau ar ol yr amser. Nid oedd yn hyn mor fanwl â Richard Jones, o Lwyngwril, yr hwn pan ddeallai ei bod yn bryd cychwyn tua'r capel, a gyfodai yn y fan, gan ddywedyd, "Dyma fi yn cychwyn, dewch chwi pryd y mynoch." Ond yr oedd Mr. Jones cyn sicred ag yntau o ben ei siwrnai. "Araf a sicr," oedd un o hynodion ei gymeriad trwy ei oes. Un o'r pethau mwyaf rhwystrus iddo yn gyffredin i gychwyn yn brydlawn o'rnaill fan i'r llall, fyddai ei ymgomiad â'i gyfeillion ar ryw bwngc neu gilydd; ac wedi cychwyn, yr atalfëydd mwyaf i fyned rhag ei flaen yn hwylus fyddai ei gyfarchiadau ar y ffordd. Bu yr ysgrifenydd, er's llawer o