Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/137

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynyddoedd yn ol, yn cyd—deithio ag ef trwy ran o sir Feirionydd yn achos dyledion capeli y sir. Yr oedd Mr. Jones yn gydymaith hoffus a gwerthfawr iawn; ond, a dweyd y gwiri gyd ar hyn, byddai ei hwyrfrydigrwydd i gychwyn ac i ddyfod rhag ei flaen wedi cychwyn, yn brofedigaeth i'r sawl ni feddai haner ei amynedd ef, i led ymwylltio wrtho; ond er hyny nid gwiw fyddai ceisio ei symbylu, canys ni wnelai hyny ond yn unig peri iddo wenu. Modd bynag, yr oedd efe yn dra theilwng i'w efelychu, fel un na fynasai er dim dori ei gyhoeddiadau.

Pe tybiem mai yn mhlith y rhai olaf yn y dyrfa fawr ar eu mynediad adref gyda'r Barnwr, y gwelir ein hen gyfaill Mr. Jones o Ddolgellau, bydd ef mor sicr a'r rhai cyntaf o honynt o fyned i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Bydded y sicrwydd hwn yn eiddo i ninau hefyd.

OL—NODIAD.

Er nad yw Mr. Evans, yn yr erthygl flaenorol, yn proffesu ei fod yn darlunio Neillduolion Gwrthddrych y Cofiant hwn, fel Gweinidog a Bugail, ond yn y blynyddau y bu ef ei hun, pan yn wr ieuange, dan ei ofal gweinidogaethol; etto, y mae y darluniad yn berffaith gywir o ddull ac arferion ein hen gyfaill, ar hyd ei oes. Gweithiwr araf, pwyllog, gonest, cryf, a difefl oedd efe, yn nhy Dduw. Ceid ef yn Arolygwr deallus, doeth, a thyner, yn wastadol. Darostyngai falchder yr uchelfrydig; dyddanai y gwan ei feddwl; cryfhai y llesg; a byddai yn ymarhous wrth bawb: ond, er hyny, nid oedd ei fwyneidddra a'i dynerwch yn peri iddo wyro trwch blewyn oddiar dir gwirionedd, ac uniondeb. Yn hyny yr oedd yn ddiysgog, fel y graig.

Cadwai dri pheth o flaen ei lygaid bob amser wrth weinyddu ceryddon eglwysig:—1. Gogoniant enw yr Arglwydd Iesu. 2. Anrhydedd y frawdoliaeth, yn y lle. 3. Lles y cyhuddedig ei hunan. Cof genym ein bod, yn y flwyddyn 1842, mewn cyfarfod eglwysig gydag ef, ar noson waith, yn Nolgellau, o flaen Sabboth y cymundeb. Cyhuddid un o'r chwiorydd oedd yn y cyfarfod hwnw, o arfer geiriau anaddas, yn fynych. Dechreuodd yr hen weinidog ymofyn, "pwy oedd wedi ei