chlywed yn arfer y fath eiriau?" Wedi cael gwybod fod amryw o dystion yn ei herbyn yn bresenol, mynai gael gwybod yn mhellach, "Pa fath eiriau oedd y rhai a arferai?" Nid oedd neb yn barod i adrodd y geiriau. Dywedai yntau “fod o bwys cael gwybod hyny; oblegid fod rhai geiriau afreidiol yn cael eu harferyd gan amryw, y rhai nad oeddynt, fe allai, yn llwon a rhegfeydd, er eu bod yn ymylu ar hyny:" ond nid oedd neb yn barod iawn i adrodd y geiriau. Yna enwodd Mr. Jones amryw o ymadroddion a ystyrir gan bawb yn llwon, ac yn iaith halogedig; a gofynai "A oedd hi yn arfer ymadroddion felly?" Atebwyd ei bod, ac yn cymeryd enw yr Arglwydd yn ofer, hefyd. Yr oedd y tystion wedi ei chlywed eu hunain, ac yr oedd y case yn gryf yn ei herbyn.
Yna, ymofynai y cadeirydd, "A oedd yno neb yn gwybod am unrhyw rinweddau a berthynent iddi? Nodwyd amryw bethau oeddynt yn ganmoladwy ynddi; ond nid oedd y pethau a ddywedwyd yn gwanhau dim ar y dystiolaeth oedd yn ei herbyn am ei geiriau anaddas. Troai y gweinidog bellach at y chwaer gyhuddedig, a dywedai: "Wel M——— ti a glywaist y cyhuddiadau sydd yn dy erbyn. Beth sydd genyt ti dy hun i'w ddywedyd mewn hunan—amddiffyniad yn eu hwynebau?" Atebodd hithau, "Fod y cyhuddiadau yn wirionedd, a bod yn ddrwg iawn ganddi o herwydd ei geiriau; ond ei bod yn fyrbwyll ei thymher, ac yn cael ei chythruddo yn aml, ac mai yn ei gwylltineb y byddai yn dywedyd y geiriau beius; ond eu bod yn peri poen iddi yn fynych, ar ol iddi eu dywedyd." Atebai yr Hen Weinidog: "Nad oedd ei gwylltineb yn esgusawd digonol dros ei hymddygiad; y dylasai hi lywodraethu ei thymherau a'i geiriau, fel y dysgir ni i wneyd yn yr ysgrythyrau; ac nid ymollwng i ddrwg—nwydau, ac wed'yn i ddywedyd geiriau rhyfygus yn y byrbwylldra hwnw." Yna gofynai i'r frawdoliaeth, "Pa gerydd a farnent hwy oedd yn angenrheidiol i'r eglwys weinyddu arni er amddiffyn enw yr Arglwydd, anrhydedd achos crefydd, ac er gwneuthur gwir leshad i'r chwaer oedd yn euog? A olygent hwy fod y cerydd oedd hi yn gael ganddynt yn y cyfarfod hwnw, yr hwn