Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/139

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ddeuai oddiwrth laweroedd, yn ddigonol i ateb y dybenion a nodasid?" Barnai y gynnulleidfa nad oedd y cerydd a g'ai y pryd hwnw yn ddigonol, oblegid ei bod mewn adeg flaenorol a cherbron yr eglwys, wedi cael ei cheryddu am ei geiriau drwg, ac na ddiwygiodd ar ol y cwbl, er iddi addaw yn deg y gwnai hyny. Bu yr Hen Weinidog yn ceisio cofio am y peth, a phan na allai, dangoswyd iddo pa bryd y buasai achos y chwaer dan sylw o'r blaen; cofiodd y cyfan, a dywedodd, "fod hyny yn newid agwedd y mater yn fawr;" ac wedi ymgynghori, penderfynwyd, fod yn rhaid atal M———— o gymunMdeb; a chyda gair serchus oddiwrth Mr. Jones, yn sicrhau iddi mai ei lles hi oedd gan yr eglwys mewn golwg, ac y byddai yn hyfrydwch mawr gan bawb ganiatau iddi eistedd wrth y bwrdd drachefn, os ceid arwyddion ei bod yn diwygio, terfynwyd y cyfarfod, ac aeth pawb adref dan argraffiadau dyfnion o werth Dysgyblaeth Eglwysig dda.

Rhoddasom yr hanes uchod ar lawr yn fanwl, am ei bod yn dangos, yn eglur, y modd yr ymddygai efe "yn nhy Dduw," mewn llawer o amgylchiadau ereill cyffelyb i'r un uchod. Bugail da, gofalus, tirion, amyneddgar, a chydwybodol iawn oedd ef. Medrai ddysgu heb gynhyrfu gwrthwynebiad. Medrai lywodraethu yn dda, heb ddangos i neb ei fod yn caru bod wrth y llyw. Medrai gydymdeimlo yn berffaith, a phobl ei ofal, yn eu holl amgylchiadau, pa mor amrywiol bynag y byddent. Dygasid ef i fynu mewn ysgol dda, er ei wneyd yn weinidog da; sef, wrth draed y Doctor Lewis. Dysgodd yntau, nid yn unig wybod ei ddyledswydd, ond ei chyflawni yn ei holl ranau, yn rhagorol. Odid y gwelir ei gyffelyb yn fuan mewn cyflawniad ffyddlon o holl ddyledswyddau bugeiliaeth eglwysig.