a chyrhaeddgar. Yr oedd rhyw fawredd gwledig yn perthyn iddi, a barai i un deimlo wrth ymddiddan â hi, ei fod yn siarad â gwraig synwyrol iawn, a thra annghyffredin o ran sylw a chraffder. Yr oedd yn ei gwr dueddfryd cryf at hela, a soniai yn ddifyr am helyntion ei helwriaethau. Cadwai ddaeargi a bytheiad at y gorchwyl iachus a difyrus hwnw: ond gyda y buchod a'r lloi, y llaeth, yr ymenyn, a'r caws, a chyda ei hosan yn yr hwyrau, y byddai hi. Anfynych y gwelid hi yn mhell oddiwrth ei thŷ. Yr oedd trefn ar bob peth a wnai, a glanweithdra yn hynodi ei pherson a'i hannedd.
Ni bu John Cadwaladr a'i wraig erioed yn perthyn i'r Ymneillduwyr. Tueddu at yr Eglwys Sefydledig yr oeddynt hwy. Nid yn aml y gwelid hwy mewn capel. Pa mor ddiwyd oeddynt yn eu hymarferiad a moddion gras yn y llan, y mae yn anhawdd gwybod yn bresenol i sicrwydd. Yr oeddynt yn tynu i gryn oedran pan oedd ysgrifenydd y llinellau hyn yn ieuangc: ond nid yn aml y gwelid hwy mewn cynnulleidfaoedd cyhoeddus y pryd hwnw. Buont fyw i oedran teg, a buont feirw, ill dau, oddeutu deg a phedwar ugain oed. Os wyf yn cofio yn iawn, yr oedd Dorothy Cadwaladr yn unarddeg a phedwar ugain pan fu farw. Claddwyd hwy yn Llanuwchllyn, gyda y torfeydd a gladdesid yno o'u blaenau. Heddwch i lwch y pâr gonest a dihoced hwn. Mae yn hawddach o lawer cael eu gwaeth na'u gwell mewn cymmydogaeth, ac yn mysg proffeswyr crefydd, hefyd, gyda gwahanol enwadau. Pe na ddaethent hwy i'r byd i ddim ond i fagu gwrthddrych y cofiant hwn, ni buasai eu dyfodiad yma yn ddiennill i'r ddaear; ond gobeithiwn am danynt "bethau gwell, a phethau yn nglyn wrth iachawdwriaeth."
Ganwyd Cadwaladr Jones yn y Deildref Uchaf, yn mis Mai, 1783, a bedyddiwyd ef ar y dydd cyntaf o Fehefin, yn y flwyddyn hono, yn eglwys Llanuwchllyn, gan y Parchedig Mr. Jones, o'r Ddolfawr, wedi hyny o Wyddelwern.