PENNOD XI.
CYFAILL GWEINIDOGION IEUAINGC, MYFYRWYR, &c.
Codi pregethwyr—Craffder i weled y cymhwysderau angenrheidiol—Engraifft—Dilyn esampl y Gwaredwr—Letty-garwch—Dyddordeb yn eu llwyddiant—Athrofa y Bala a'r hen "Ddysgedydd"—Yn stoic mewn pwyll—Llythyr y Parch. O. Evans.
Golygaf fod y drefn sydd genym yn Nghymru o godi dynion ieuaingc i bregethu'r efengyl yn tra rhagori ar y dull sydd yn ffynu yn Lloegr. Yn yr eglwysi Seisnig y mae ymgeiswyr am y weinidogaeth yn gyffredin yn ymwthio i'r weinidogaeth gyda chydsyniad ychydig gyfeillion crefyddol. Ond yn Nghymru y mae ymgeiswyr am y weinidogaeth yn gyffredin yn cael eu hanog i bregethu, a chyn yr ymgyflwynant i'r gwaith, y maent yn cael pleidlais o anogaeth a chydsyniad yr eglwys y perthynant iddi. Y mae'n gofyn yspryd cenadol a chraffder i godi dynion addas i bregethu. Lle y mae diffyg hyn, y mae dynion ieuaingc gobeithiol heb eu gweled, ac wedi treulio eu hoes mewn dinodedd, pryd y gallasent fod yn lampau yn llosgi. Er mai arafaidd anarferol oedd Mr. Cadwaladr Jones yn ei holl ysgogiadau, yr oedd yn sylwedydd manol ar bobl ieuaingc ei eglwysi, ac yn dwyn sêl mawr yn ei ffordd bwyllus, ond penderfynol ei hun, dros godi dynion cymhwys i'r weinidogaeth. Nid hir y byddai Mr. Jones yn llygadu dyn ieuangc o dalent, ac yn Nghymru, y weinidogaeth yw bron unig faes doniau y genedl Gymreig, ar ol cael ei goresgyn gan y Saeson. Am bregethwyr, nid ydym yn meddwl fod un wlad yn rhagori ar Gymru. Mae talent y genedl i'w gael yn benaf yn nghylch y weinidogaeth. Bu Mr. Jones yn offeryn i dueddu rhai o'n gweinidogion goreu a mwyaf grymus at y gwaith o bregethu'r efengyl. Mae y restr ganlynol yn dangos hyny. O dan ei weinidogaeth ef, a thrwy ei anogaeth y cododd y personau canlynol i bregethu:—y Parchedigion Owen Owens, Rhesycae; Evan Evans, Llangollen; Edward Roberts, Cwmafon; Evan Jones, Tredegar, alias Ieuan Gwynedd; Edward Roberts, Coedpoeth; Robert Ed-