Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wards, Llanymddyfri; Rowland Hughes, Dolgellau; Griffith Price, Croesgarnedd; Richard Owen, Rhydymain, &c.

Yr oedd gan Mr. Jones ofal tadol am y dynion ieuaingc, yr oedd efe a'i eglwysi wedi eu codi i'r weinidogaeth. Siaradai lawer am danynt, ac ymddedwyddai yn eu llwyddiant. Ar ol iddynt sefydlu yn fugeiliaid ar eglwysi, holai lawer ar weinidogion cymydogaethol pan y deuent ar eu taith drwy Ddolgellau yn nghylch eu llwyddiant, ac ymffrostiai yn eu rhagoriaethau. Nid holi y byddai fel ambell i chwedleuwr maleisus er mwyn gwneyd iddynt "ddrygau lawer," yn ol esiampl Alexander y gôf copr, ond fel tad yn cydlawenhau a dynion ag oedd yn cydlafurio ag ef yn yr efengyl. Mewn codi dysgyblion i bregethu'r efengyl ar ei ol dilynai Mr. Jones esiampl ein Gwaredwr. Nid gweinidog llwyddianus a fu Crist ei hunan, ond cododd ddeuddeg o ddynion hyfforddedig yn y gwirionedd i bregethu'r efengyl ar ol ei adgyfodiad. Nid ydym yn cael yn hanes yr eglwys un cyfnod yn cael ei fritho â'r fath nifer o sêr o'r maintioli mwyaf. Ryw un Abraham, ac un Dafydd, ac un Elias, ac un Eliseus a gawn ar unwaith. Ond cododd Crist ddeuddeg tywysog crefyddol i eistedd ar ddeuddeg gorsedd, i farnu deuddeg llwyth Israel, a gwnaeth y deuddeg dyn hyn eu hol ar y byd, nes teimlodd yr holl ddaear oddiwrth eu dylanwad. Yn ol yr un esiampl cododd Mr. Jonos ddysgyblion sydd wedi cario y genadwri a draethodd i gylch llawer eangach na chylch ei weinidogaeth uniongyrchol ef ei hun, a thrwyddynt, y mae efe wedi marw, yn llefaru etto.

Yr oedd y croesaw a roddai Mr. Jones i efrydwyr a phregethwyr ieuaingc ar eu teithiau, yn galonog. Nid wyf yn cofio un pregethwr yn cwyno erioed fod Mr. Jones wedi bod yn sarug at neb ar ei daith, ond canmolai pawb ei sirioldeb. Yr oedd ei dŷ bob amser yn agored i dderbyn pregethwyr, a gwariodd lawer iawn o'i olud mewn lletygarwch. Yr oedd, nid yn unig yn garedig drwy ras, ond yr oedd wedi ei wneyd yn greadigol felly. Yr oedd yn llawn hynawsedd a natur dda, fel y gwasanaethodd y wlad am ychydig, ac y cyfranodd