yn ehelaeth mewn lletygarwch at gynal achos crefydd, nid yn unig yn ol ei allu, ond uwchlaw ei allu. Er hyny bu rhagluniaeth Duw yn dirion iawn o hono. Ar yr un pryd, yr oedd ganddo ei farn, a medrai feirniadu dyn ieuangc yn ddeheuig os gwelai angen am hyny. Ar rai adegau, pan y byddai ei argyhoeddiadau yn gryfion, medrai geryddu yn bur llawdrwm, ond yn bwyllus a boneddigaidd. Ni clywais erioed ei fod wedi cynhyrfu, fel ag i golli dim llywodraeth ar ei dymherau. Yr oedd ei bwyll yn ddiarebol. Pan yr oedd y diweddar Christmas Evans unwaith yn pregethu yn nghymydogaethau Dolgellau, ar ddydd y farn ddiweddaf, ar ol dyweyd am y ddaear yn crynu, a'r mynyddoedd yn neidio a phethau o'r fath, fel climax ei reítheg bloeddiai "y byddai Cadwaladr Jones wedi ei gynhyrfu y pryd hwnw!" Cynghorwr heb ei ail oedd Mr. Jones i ddyn ieuangc. Ni welais i erioed ddyn o wneuthuriad cyffelyb. Yr oedd yn ddyn o deimladau tyner iawn, caredig tu hwnt, ac ar yr un pryd yr oedd y mwyaf digynhwrf o feibion dynion; yn Stoic perffaith mewn pwyll, ac yn un o'r dynion mwyaf hynaws.
Yr oedd holl elw yr hen Ddysgedydd yn myned i ro'i ysgol i ddynion ieuainge a godid i'r weinidogaeth. Golygodd yr Hen Olygydd y misolyn hwn am flynyddau lawer am 10p. yn y flwyddyn, a'r holl gynyrch yn cael ei roddi i bregethwyr ieuainge. Tra y bu'r cyhoeddiad yn ei ddwylaw, yr oedd pob hyder ynddo fel Golygydd, ac ni fu'r hen Ddysgedydd yn fwy ei barch na phan yr oedd yn ei law. Yn nerth elw'r Dysgedydd y cychwynwyd Athrofa'r Bala, yr hon sydd wedi anfon allan ugeiniau o weinidogion. Elw'r Dysgedydd yn y dechreu oedd braidd yr unig gymorth a dderbyniai. Bob yn dipyn daeth casgliadau i gynnorthwyo cynnaliaeth a geid oddiwrth y Dysgedydd. Drwy wahanol gyfnewidiadau, pallodd cymhorth y Dysgedydd, rhoddodd Mr. Jones, yr olygiaeth i fyny, a gorfu ar Athrofa'r Gogledd ddibynu ar y casgliadau yn llwyr. Fodd bynag, oni b'ai'r elw oddiwrth y Dysgedydd, mae'n debyg na fuasai Athrofa'r Bala wedi ei chychwyn o gwbl, ac am flynyddau lawer, llafur Mr. Cadwaladr Jones