Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/143

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda'r Dysgedydd oedd ei phrif gynnaliaeth. Yr oedd Mr. Cadwaladr Jones yn ffyddlon iawn yn holl bwyllgorau yr Athrofa. Efe bob amser bron a ddewisid yn gadeirydd, os byddai yn bresenol, ac anfoddlon iawn a fyddai neb i gymeryd y gadair os byddai Mr. Jones yn bresenol. Parhaodd i ddyfod i'r pwyllgorau hyd ei ddiwedd. Edrychid arno bob amser fel tad tirion a ffyddlon.

Yr oedd Mr. Jones yn gystal beirniad ar bregeth a neb y darfu i ni ei gyfarfod. Gwelsom rai yn cael eu cario gan ffrwd hyawdledd o ryw fath, a nerth llais i gymeradwyo pregethau na byddai'r farn yn eu cymeradwyo. Nid oedd hyn yn un brofedigaeth i Mr. Jones. Yr oedd bob amser yn berffaith oer, a chlir ei ben. Pan y byddai cynnulleidfaoedd yn berwi, gwelsom ef lawer gwaith yn berffaith ddigynwrf, ond byddai yn effro drwyddo, ond iddo gael pregeth wrth ei fodd. Rhoddodd lawer cynghor gwerthfawr i bregethwyr ieuaingc. Pan y byddai yn gwasgu yn lled drwm ar ambell i un lled ddilygad a hyf, a hwnw yn methu cydweled âg ef yn nghylch y diffygion ynddo a nodai Mr. Jones, cyfodai ar adegau deimladau drwg yn erbyn Mr. Jones, am mai anhawdd iawn yw i neb weled ei bechod ei hun. Beirniadodd Mr. Jones lawer ar bregethwyr ieuaingc, a dywedodd ei feirniadaeth yn garedig wrthynt, er mwyn eu harafu a'u diwygio, a gwnaeth les mawr lawer gwaith wrth wneyd hyn. Yr oedd ei ddybenion da bob amser uwchlaw amheuaeth, a'i farn gref yn ei gadw rhag gwyro.

Yr oedd Mr. Jones yn ochelgar hyd at fod yn ofnus, a dichon fod ei law ar adegau wedi bod yn rhy drom ar rai a ddysgyblai. Mae anturiaeth yn perthyn i'r ieuange, a gochelgarwch i'r hen. Yr oedd Mr. Jones yn naturiol yn fwy o enfa i atal nag o yspardyn i symbylu. Mewn cynghorau, atal pobl wylltion oedd ei apostolaeth yn fwy na chyffroi i waith, er y medrai wneyd hyny yn eithaf, ond iddo fod yn ddigon sicr ei fod yn waith priodol i'w wneyd. Gwelsom ei ochelgarwch yn ei gario i eithafoedd. Nid oedd ynddo yr elfenau rheidiol i wneyd Luther mewn unrhyw wlad. Yr oedd yn debycach i Erasmus