Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/144

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—yn hirben iawn, ond yn rhy ofnus ar adegau. Cariai yr ofn yma i bob peth, ei amaethyddiaeth, adeiladu capelau, &c., fel oedd yn sicr bob amser nad elai i brofedigaeth. Mewn oes o 85 mlynedd, unwaith y gwelsom ef erioed wedi myned i'r fagl. Yr oedd craffder y llwynog wedi ei roddi iddo. Nis gallasai dynion ieuaingc selog a llawn o yni beidio a theimlo gwerth cymeriad pwyllog a phwysig fel yr eiddo Mr. Jones. Ar yr un pryd, ni thalasai i bawb fod fel Mr. Jones. Mae yn dda cael un Lapland i oeri tipyn ar y byd; ond pe buasai'r byd i gyd yn Lapland, buasai yn rhy amddifad o wres. Na feddylied y darllenydd ein bod yn tybied na wnaeth Mr. Jones waith, am ein bod yn dweyd fel hyn. Yr oedd yn un o'r mwyaf blaen—llaw mewn llafur hunanymwadol i godi pregethwyr ieuaingc, ac ychydig a lwyddodd i wneyd cymaint ag a wnaeth efe.

Gan fod y llythyr a ganlyn yn egluro y mater hwn yn mhellach, rhoddwn ef yma.

AT C. R. JONES, LLANFYLLIN.

ANWYL SYR.—Mae yn dda iawn genyf ddeall fod gobaith y cawn, a hyny yn fuan, Gofiant teilwng o'ch anwyl, a'ch hybarch dad, gan fod cynifer o frodyr, mor gymhwys a galluog, wedi ymgymeryd â'r gorchwyl o barotoi cofiant iddo. Yr oedd efe yn ddiddadl yn "dywysog ac yn wr mawr yn Israel," ar lawer o ystyriaethau, er mai gwr disyml a hollol ddiymhongar ydoedd o ran yr olwg arno. Gwelaf oddiwrth yr hysbysiad, fod un bennod o'i Fywgraffiad yn cael ei chyflwyno i son am "Ei nawdd dros bregethwyr ieuaine, &c."; a bydd yn dda genyf, os caniateir i minau ddweyd gair am dano, dan y penawd hwn, oddiar fy mhrofiad fy hun. Bum yn cadw ysgol yn Rhydymain gerllaw Dolgellau, am dymhor cyn myned i'r weinidogaeth, a byddai yntau yn arfer dyfod i Rhydymain i pregethu y pryd hwnw, unwaith yn y mis; a dyna yr amser y daethum gyntaf i gydnabyddiaeth ag ef, er fy mod wedi ei weled a'i glywed, unwaith neu ddwy cyn hyny. Nid oeddwn i ond dyn ieuanc dinod, a dieithr yn y gymmydogaeth; ac felly nid oedd genyf unrhyw hawl i disgwyl iddo gymeryd nemawr sylw o honof, na theimlo fawr o ddyddordeb ynof; ond eto, cefais lawer iawn o sirioldeb a chefnogaeth, a chalondid ganddo ef, a'r Parch R. Ellis, Brithdir, tra bum yn yr ardal. Yn mhen amser, meddyliodd y cyfeilion yn Berea, Môn, am roddi galwad i mi i ddyfod yn weinidog iddynt; ond cyn gwneuthur hyny. anfonasant at Mr. Jones a Mr. Ellis, i ymgynghori â hwynt ar y mater. Ni wybum i ddim am y peth ar y pryd; ond ryw dro wedi i mi ymsefydlu yno, meddyliodd y swyddogion, na buasai o un niwed iddynt roddi i mi lythyrau a dder-