Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byniasent oddiwrth y Parchedigion C. Jones ac R.Ellis ; ac y maent yn fy meddiant yn awr, ac yn neillduol o werthfawr yn fy ngolwg, fel amlygiad o deimladau caredig y ddau weinidog parchus. Ni byddai yn briodol cyhoeddi y llythyr hwn, o eiddo yr hen Olygydd Hybarch, am ei fod yn dal perthynas rhy agos a mi yn bresenol; ond teimlaf ei bod yn ddyledswydd arnaf, yn gystal ag yn bleser genyf, grybwyll y ffaith, fel un engraifft o'i garedigrwydd i bregethwyr ieuainc. Bydd ei goffadwriaeth byth yn anwyl ac yn barchus genyf.

Yr eiddoch yn serchog,

Llanbrynmair.

OWEN EVANS.

PENNOD XII.

Y GOLYGYDD.

Cymhwysder i'r swydd—Pen and Ink Sketch, gan Ieuan Gwynedd—Y Rhifyn cyntaf o'r Dysgedydd Synwyr cyffredin—Nid corsen yn ysgwyd gan wynt—Annibyniaeth meddwl—Symledd fel ysgrifenyddDadleuon y "System Newydd"—Y pregethwyr teithiol—Penderfyniadau cymanfaoedd, &c—Ysgrif Scorpion—Y dymestl—Y Dysgedydd yn suddo—Camhysbysiad o'r ddyled, &c—Cyflwyniad o'r olygiaeth i fyny, ac apwyntiad eraill i gymeryd ei ofal.

Un-mlynedd-ar-ddeg-ar-hugain o Olygiaeth!—Nid yn aml y disgyn i ran un dyn i eistedd wrth lyw cyhoeddiad am dymor mor faith. Rhaid fod cymhwysder neillduol yn yr "Hen Olygydd" i'r swydd, cyn y gallasai barhau ynddi cyhyd, a rhoddi, ar y cyfan, foddlonrwydd cyffredinol. Dewiswyd Mr. Jones i'r gwaith, y mae yn sicr genym, nid oblegid mai efe oedd y mwyaf cyfleus i'r swyddfa, ond oblegid mai efe, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, oedd y cymhwysaf o holl gychwynwyr y Dysgedydd i'w osod ar hyn o orchwyl. Buasai yn llawer haws cael cystal argraffydd a Mr. Richard Jones y tuallan i Ddolgellau, nag a fuasai cael cystal golygydd ar Parch. Cadwaladr Jones. Mewn rhyw bethau, hwyrach, fod pob un o'i gyfoedion, fel y dywed y diweddar Ieuan Gwynedd mewn ysgrif alluog o'i eiddo, yn rhagori ar Mr. Jones; ond tueddir ni i feddwl wedi talu sylw lled helaeth i'w olygiaeth, fod y cydgyfarfyddiad o wahanol ragoriaethau oedd ynddo ef, yn ei wneyd y cymhwysaf o honynt oll i'r swydd o Olygydd; a hýny yn ddiau a wyddai ei frodyr yn dda, ac oblegid hyny