Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w law ef yr ymddiriedasant ei ofal yn benaf; ond y mae yn hawdd deall ei fod yntau yn gweithredu mewn ymgynghoriad parhaus a'i frodyr, yn enwedig a'r Hybarch J. Roberts, o Lanbrynmair; llythrenau enw yr hwn a welir amlaf o bawb ar ddalenau y Dysgedydd am y deng mlynedd cyntaf o'i gyhoeddiad. Mae "Ieuan Gwynedd" wedi tynu darluniad naturiol iawn o'r "Hen Olygydd" mewn ysgrif o'i eiddo a ymddangosodd yn y Principality, Tach. 2il, 1847. Dysgybl i Mr. Jones oedd Ieuan, wedi ei fagu dan ei nawdd yn y Brithdir; ac yr oedd gan y dysgybl feddwl mawr o'i athraw; ac felly hefyd yr oedd gan yr athraw o'i ddysgybl. Hwyrach y dylem ddyweyd mai papur Seisnig rhyddfrydig oedd y Principality. Dyma y cynyg cyntaf a wnaed i sefydlu papur Seisnig o'r fath nodwedd yn ein gwlad; ond fel llawer anturiaeth deilwng arall methodd o ddiffyg cefnogaeth. Er mai Mr. David Evans oedd y cyhoeddwr a'r perchenog, etto yr oedd Ieuan Gwynedd mewn cysylltiad uniongyrchol ag ef, a bu am dymhor yn gweithredu fel Golygydd. Ysgrifenodd ynddo amryw erthyglau galluog ar gyhoeddiadau cyfnodol Cymru, ac un o'r gyfres oedd yr ysgrif ar y Dysgedydd ; ac yr ydym yn cofio yn dda fod yr argraff ar ein meddwl pan ddarllenasom hwy ar y pryd, mai yr un ar y Dysgedydd oedd yr oreu o'r cwbl. Mae y "Pen and Ink Sketch" a ddyru o'r Hen Olygydd yn bortread byw. Rhoddwn hi yn yr iaith yr ysgrifenwyd hi. Mae mor eglur fel nas gall yr un Cymro, os yn deall dim Saesneg lai na'i deall.

"The brethren agreed to publish their periodical at Dolgelley, and the Rev. Cadwalader Jones was appointed editor. Mr. Jones was then a minister of about 12 years standing, and had four small churches under his care. He is a native of Llanuwchllyn, and studied for some time at the Independent Academy, then at Wrexham. He was chosen by a majority over the Rev. D. Morgan, now of Llanfyllin, to be the successor of the Rev. Hugh Pugh, of Brithdir, who died in the year 1809. Mr. Jones has continued ever since the pastor of Dolgelley and Islaw'rdref churches, which has prospered under his ministry. He resigned the pastorship of Brithdir and Rhydymain in 1837, but continues still to pay a monthly visit to his old flock, where he is regarded with partriarchal honour. As a preacher he is clear and instructive, and has been a kind and affectionate pastor. He has been lately married to his third wife, and has a family of seven sons. Cad-