Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/149

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddim pellach nag y maent yn amlygu eu hunain yn y Golygydd; ac y maent yn dyfod i'r golwg yn aml iawn.

Yr oedd yn meddu ar synwyr cyffredin cryf. Nid ydym yn tybied y gellir cael dim yn ei ysgrifeniadau sydd mewn un modd yn awgrymu diffyg callineb. Yr oedd bod yn ddistaw pan y dylasai lefaru yn llawer mwy o brofedigaeth iddo, na llefaru pan y dylasai fod yn ddistaw. Ceid ei holl sylwadau pan y gwnai hwy yn "eiriau doethineb;" a phan y traethai ef ei farn, nid oedd ond oferineb ymgyndynu, am y gwnai hyny gyda'r fath briodoldeb, fel y barnai agos pawb, pa un bynag a gytunent a'i olygiadau ef ai peidio, mai cystal oedd ei gadael yn y fan hono.

Gwyddai pawb a'i hadwaenai y meddai ystôr ddihysbydd yn mron o amynedd. Yr oedd ei "arafwch yn hysbys i bob dyn." Medrai deimlo, a digio, a dyweyd geiriau miniog a chyrhaeddgar os mynai; ac ar yr un pryd nid yn aml y bu yr un dyn yn ei swydd ef, a gadwodd lywodraeth mor berffaith ar ei holl deimladau; ac er hyny nid un llwfr, a meddal, a hawdd ei arwain ydoedd ychwaith; ond yr oedd yn annibynol iawn ei feddwl, ac yn bur benderfynol ei ysbryd. Nid hawdd oedd ei droi yn ol o'r cyfeiriad a gymerai. Yn araf a phwyllog iawn y gwnai ei feddwl i fyny, ond wedi ei wneyd, nid “ corsen yn ysgwyd gan wynt" ydoedd.

Yr oedd yn ysgrifenydd eglur a dealladwy iawn. Nid oedd dim yn aruchel a barddonol yn ei arddull, a buasai yn fwy llwyddianus fel golygydd pe gallasai daflu mwy o dân a bywyd i bawb o'i gylch. Yn hyny hwyrach na bu yr un golygydd yn Nghymru erioed mor alluog a "Gomer." Gallai ef ag ysbrydiaeth ei ysgrifell daflu tân i'w ddarllenwyr, a pheri iddynt deimlo yn angerddol drosto ef, a thros y Seren a olygid ganddo ef. Cadfridog ydoedd yn medru casglu ei luoedd o'i gylch a'u gwefreiddio a'i ysbryd nes peri iddynt ddibrisio pob peth er ei fwyn. Nid oedd hyny yn nodwedd arbenig yn Mr. Jones, ond yr oedd yntau yn llwyddianus iawn i gadw pawb yn gyfeillion iddo. Mae yn debyg na wnaeth neb erioed lai o elynion iddo ei hun, ac ystyried ei fod mewn sefyllfa yr oedd dan