Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gan mai efe oedd unig blentyn ei rieni, gallwn fod yn dra sicr fod eu serch tuag ato, a'u gofal gwastadol am dano, yn fawr iawn. Canwyll eu llygaid, yn ddiau, oedd yr unig blentyn hwn. Yr oedd dau feddwl, dwy galon, a phob dymuniad am ei les a'i lwyddiant, yn cydgyfarfod ynddo, ar bob awr o'r dydd. Yr oedd ei rieni yn gysurus o ran eu sefyllfa yn y byd, yn fwy felly na llawer o'u cymmydogion, a diau na arbedasant ddim a ystyrient yn angenrheidiol i ddwyn Cadwaladr bach i fyny yn deilwng, yn ol eu golygiadau hwy ar y pwnge hwnw. Cafodd gartref clyd; ymborth iachus y wlad hono; gwisgoedd priodol i'r haf a'r gauaf, "Sul, a gwyl, a gwaith ;" gofal serchus a thyner; llawer o sirioldeb chwarëus gan ei dad a chynghorion, cyfarwyddiadau, a rhybuddion, gan ei fam feddylgar, fanylgraff, a synwyrol. Felly, wrth fwynhau pob peth angenrheidiol iddo dan gronglwyd ei rieni, golygfeydd amrywiaethol yr ardal, ac awelon bywiol Pennantlliw, cynnyddodd, a daeth yn fachgen heinyf, a chwimwth anarferol ar ei droed, a dechreuodd henuriaid y gymmydogaeth feddwl yn uchel am dano; a diau fod hyny yn foddlonrwydd iddo ef ei hun, ac i'w rieni hefyd, er na ddywedent hwy nemawr ddim ar faterion o'r fath hyny. Nid oes neb yn awr yn fyw yn yr ardal hono, mae yn debyg, a "gyd-chwareuai âg e'n fachgen," nac, yn sicr, neb oedd mewn oedran i sylwi arno yn y tymhor hwnw o'i oes, i roddi i ni unrhyw sylwadau ar ei foes a'i arferion yn ei ddygiad i fyny; gan hyny, nid oes genym ond dyfalu ei fod, yn y rhan fwyaf o bethau, yn gyffelyb i fechgyn eraill y fro fynyddig hono, yn yr oes ddilynol i'r eiddo ef.

Gallwn yn hawdd ddychymygu iddo dreulio llawer dydd. teg, yn hafau dyddiau ei faboed, ar làn y nant sydd yn myned heibio i'r Deildref Uchaf, a'r afon Lliw, sydd yn golchi un ochr i ddôl a berthyn i'r tyddyn, yn chwareu, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient ynddynt. A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei fod yn ddiwyd yn ymlithro ar hyd eu rhewogydd yn y gauafau, ac yn cael