Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr angenrheidrwydd beunydd o anfoddloni rhyw rai. Dywedai beth bynag a fyddai ganddo i'w ddyweyd yn eglur a syml, heb amcanu ond ychydig at dlysni a phrydferthwch. A phe gofynid i ni grynhoi elfenau ei gymeriad fel golygydd, fel y gellir eu casglu oddiar dudalenau y Dysgedydd yn ystod tymor maith ei olygiaeth dywedem, mai synwyr cyffredin cryfarafwch, pwyll, ac ysbryd barn-anmhleidgarwch ac annibyniaeth meddwl-ac eglurdeb a symledd fel ysgrifenydd oeddynt ei brif nodweddion.

Mae "Hanesion gwladwriaethol "y Dysgedydd yn eglurhad nodedig ar ei symledd fel ysgrifenydd. Nid oes dim yn swynol a hudoliaethus ynddynt mewn un modd, ac etto y mae yn cofnodi helyntion a digwyddiadau yr amserau hyny fel un yn eu deall yn drwyadl, ac oddiar eu deall yn ceisio eu hysgrifenu fel y gallai eraill hefyd eu deall. Yn aml iawn ysgrifenir hanesion gwladol mewn newyddiaduron a misolion yn y fath fodd, fel y mae yn hawdd gweled nad yw yr ysgrifenwyr eu hunain wedi deall yr amgylchiadau yn drwyadl. Nyddir erthyglau hirion i fyny gyda rhes o eiriau amwys ac anmhenodol; ac er y gall y dwl a'r anwybodus dybied eu bod yn ysgrifau galluog a doniol, gwel y craff a'r sylwgar nad ydynt yn ddim ond "chwyddedig eiriau gorwagedd," ac nad oedd yr ysgrifenydd ei hun yn deall yr amgylchiadau, ond yn rhanol ac anmherffaith iawn; ac o angenrheidrwydd gan hyny, yn anmherffaith iawn y gallasai eu cyflwyno i'w ddarllenwyr, ac er celu ei anwybodaeth ymwisgai mewn niwl a thywyllwch. Ond nid un felly oedd Mr. Jones, "gwell oedd ganddo ef lefaru pum' gair trwy ei ddeall na mil o eiriau" heb feddwl ac ystyr iddynt. Gofynai dysgybl i'w athraw unwaith pa fodd y gallasai lefaru yn effeithiol? "Mae tri pheth yn eisiau," ebe yr athraw, σε yn gyntaf, rhaid fod genych ryw beth pendant i'w ddweyd. Yn ail, rhaid i chwi ddweyd y peth pendant hwnw yn y geiriau symlaf a ellwch gael. Ac yn drydydd, rhaid i chwi ddweyd y peth pendant hwnw mewn geiriau syml fel un yn ei gredu eich hun." Eithaf da. Mae yr hyn sydd wir am siarad yn effeithiol yr un mor wir am ysgrifenu yn effeithiol. Gwyddai Golygydd