Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/151

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Dysgedydd yn dda yr amgylchiadau a gofnodai. Nid o'r papurau newyddion a ddarllenai y cyfieithai i'w bapur yn gaeth; ond cymerai y cwbl o'r newyddiaduron i'w feddwl ei hun yn gyntaf, ac wedi eu troi yno yn hir, trosglwyddai hwy o'i feddwl i'w eiriau ei hun ar bapur i fyned i'r Dysgedydd, a gallasai eu dweyd yn hawdd wrth gyfaill ar y ffordd i'r dref bron yn yr un geiriau ag yr oedd wedi eu hysgrifenu. Dywedir fod rhywun yn gofyn i Dr. Lewis unwaith beth oedd ei feddwl ar ryw adnod. "Beth ydwi'n ddweyd yn fy esboniad ?" oedd yr ateb. Os gwir hyny, yn y llyfr yr oedd esboniad y Doctor, ac nid yn ei feddwl; ond y mae dull syml Golygydd y Dysgedydd o ysgrifenu y newyddion cyffredinol yn dangos eu bod yn ei feddwl cyn eu trosglwyddo i'r papur, ac wedi dyfod yn rhan mor naturiol o'i feddwl fel y gallem yn naturiol gasglu nad oeddynt wedi eu colli oddiyno er eu trosglwyddo i'r llyfr. Buasai yn dda genym ddwyn engrheifftiau, ond y mae y terfynau a ganiatawyd i ni yn ein rhwymo i ymatal.

Bu y Dysgedydd yn faes dadleuaeth frwd am flynyddau. Nid oes odid athrawiaeth dduwinyddol na chwestiwn cymdeithasol na bu y Dysgedydd yn ymdrin âg ef, a dadleuon poethion ar lawer o honynt; ac amlygwyd yn nglyn â'r dadleuon hyny lawn cymaint o gymhwysderau y Golygydd, ag mewn dim arall. Y "system newydd" fel ei gelwid oedd yn peri cyffro mawr yn mlynyddoedd cyntaf ei olygiaeth. Un o'r rhai blaenaf yn mysg dadleuwyr y dyddiau hyny oedd yr Hybarch J. Roberts, Llanbrynmair, a hen ddadleuwr teg a boneddigaidd iawn ydoedd. Tŷn a phenderfynol dros ei bwnge mae yn wir, ond yr oedd yn hawdd gweled mai ymofynydd gonest am y gwirionedd ydoedd. Ei ddadl ef a D. S. Davies, Llundain, ac eraill, yn erbyn Sion y Wesley yw un o'r rhai cyntaf yn y Dysgedydd. Rhoddodd y Golygydd bob tegweh iddynt. Nid oedd byth ddim brys arno i gau y dadleuon i fyny, a gallesid bod yn bur sicr os soniai y Golygydd am dynu pen ar unrhyw ddadl fod corff y darllenwyr wedi llwyr flino arni. Yn rhifyn Mai, 1825, y mae yn cloi y ddadl hono i fyny, ac y mae yn gwneyd hyny gyda'r pwyll a'r craffder oedd