Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/152

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor briodol iddo. Dywed yn bur ddigynwrf "Nid ydym yn deall fod y ddadl wedi parhau cyhyd oblegid cyfatebolrwydd ymddangosiadol yn synwyr, dysg, a rhesymiadau y dadleuwyr, ond oblegid gorhoffedd Sion yn, a'i sêl dros y gwaith o wrthwynebu ei wrthwynebwyr goreu ag y medrai, pan na fyddai ganddo ond ychydig iawn o feddyliau newyddion." Mor ddidwrw onide, y mae yn ei droi o'r neilldu. Yna yn myned yn mlaen i sylwi ar bwyntiau y ddadl. Bu yr un ddadl ger bron mewn gwahanol ffurfiau lawer gwaith ar ol hyny; ac ymddengys i ni bob amser fod terfyniad "Dadl Etholedigaeth" yn Nysgedydd Ebrill, 1847, yn un o'r ysgrifau galluocaf a gyhoeddwyd erioed ar y pwngc yn ein hiaith.

Dyna oedd ein barn am dani y pryd hwnw, darllenasom hi fwy nag unwaith wedi hyny, ac nid ydym wedi gweled achos. i newid na chymedroli ein barn. Gwyddom yn dda na bu yn foddion i argyhoeddi y rhai a wrthwynebant y golygiadau a gofleidiai efe. Nid ydym yn meddwl fod neb yn disgwyl y gwnai hyny, ond gwyddom iddi gadarnhau llawer o'r rhai oeddynt amheus; a pheri i'r rhai a gredent yr athrawiaeth o'r blaen deimlo yn gryfach a gwrolach ynddi. Anhawdd genym feddwl fod unrhyw ddyn teg a diduedd (os yw yn bosibl cael y fath) beth bynag fyddo ei farn bersonol ar yr athrawiaeth, na chydnebydd y craffder, y medrusrwydd, a'r annibyniaeth meddwl gyda pha un y mae yr "Hen Olygydd" fel barnwr yn symio y cwbl i fyny.

Profodd Mr. Jones fwy nag unwaith yn ystod ei Olygiaeth ei fod yn annibynol iawn ei feddwl; ac er mor awyddus ydoedd am foddloni ei frodyr, ni phetrusai os barnai fod doethineb yn galw arno, i wneyd pethau y gwyddai y byddai iddo drwy hyny dynu anfoddlonrwydd cyfundebau cyfain. Y rheol yn nglyn a chyhoeddiadau enwadol ydyw cyhoeddi pa bethau bynag y penderfynir arnynt mewn cyfarfodydd sirol neu gymanfaoedd, pa un bynag a fydd y golygydd yn cydweled â hwy ai peidio, a gadael i'r rhai sydd yn eu gwneyd fod yn gyfrifol am danynt; ac ymddengys i ni ei bod, ar y cyfan, yn rheol ddoeth a diogel. Ond nid ydym yn amheu nad all fod