amlygai. Ac y mae yn ddigon tebyg erbyn hyn fod y rhan fwyaf o'r rhai oedd a llaw yn y cynnadleddau hyny, yn barnu y buasai yn llawn cystal heb basio y penderfyniadau y barnodd yr Hen Olygydd yn ddoethach eu gadael allan. Yr ydym yn bur sicr mai dyna deimlad y rhan fwyaf o lawer o'r rhai oedd a fynent a'r amgylchiad diweddaf a nodwyd.
Dangosodd Mr. Jones raddau helaeth hefyd o ysbryd annibynol yn nglyn â'r dadleuon a fu o bryd i bryd yn y Dysgedydd yn nghylch pregethwyr cynnorthwyol. Bu amledd teithwyr yn faich mawr ar yr eglwysi flynyddau yn ol, a gwnaed llawer cynyg i reoli y teithio diddiwedd. Pasiwyd penderfyniadau yn lled gyffredinol, nad oedd yr un pregethwr cynnorthwyol i fyned i daith heb gymeradwyaeth cyfarfod chwarterol neu gymanfa. Ni bu Mr. Jones erioed yn ffafriol i'r rheol hono, ac amlygodd hyny fwy nag unwaith yn y Dysgedydd. "Y mae hyn " meddai "yn ymddangos i mi bob amser yn gorwedd yn anesmwyth ar ein hegwyddorion fel Annibynwyr, ac ar yr ysgrythyrau." Ystyriai ef fod cymeradwyaeth y gweinidog a'r eglwys lle y byddo y pregethwr cynnorthwyol yn aelod yn uwch awdurdod na dim a allasai unrhyw gyfarfod sirol ei roddi iddo. Mae ganddo un syniad yn nglyn â chyfarfodydd sirol yr esgusodir ni am ei ddwyn i mewn yma; yr ydym yn gwneyd hyny, am fod yn dda genym weled hen wron profedig yn datgan ei farn mor groyw ar fater yr ydym wedi gwneyd ein meddwl i fyny yn bur benderfynol arno er's blynyddoedd. Dyma ei eiriau, “Ni ddeallais etto erioed mai fel cynrychiolwyr yr eglwysi, a thrwy awdurdod yr eglwysi y mae gweinidogion yr Annibynwyr i ymdrin â'n hachosion; a bod ganddynt hawl i lunio i sefydlu deddfau fel y barnont hwy eu hunain yn oreu." Nis gallasom ninau erioed ddeall yr egwyddor o gynrychiolaeth yn nglyn âg Annibyniaeth; ac nid ydym yn credu fod gweinidogion na diaconiaid yn cyfarfod mewn cynnadleddau fel cynrychiolwyr yr eglwysi, nac yn awdurdod yr eglwysi, ond yn hollol fel personau unigol, a pha bethau bynag y penderfynant arnynt i gael eu derbyn neu eu gwrthod gan yr eglwysi fel y barnont