Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/155

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn oreu. Mae penderfyniadau cynhadleddau yn ddarostyngedig i farn yr eglwysi, ac nid yr eglwysi yn ddarostyngedig i benderfyniadau cynnadleddau. Dadleuodd yr "Hen Olygydd” hyny yn gryf iawn, a hyny ar adeg yr oedd rhai gweinidogion a chyfundebau yn hawlio mwy o awdurdod i gynnadleddau nag a all Annibyniaeth ganiatau.

Unwaith o gwbl y gwelsom yr "Hen Olygydd" mewnpen bleth—wedi gollwng y llyw o'i law, neu o leiaf yn ymafael ynddo yn ofnus iawn. Bu ddrwg genym ganwaith drosto, a gwnaethom ein goreu ar y pryd i gynal ei freichiau. Cododd ysgrif Scorpion, yn Nysgedydd Tach. 1848, ystorm na chodwyd ei chyffelyb y mae yn sicr genym gan un ysgrif yn yr oes yma. Nid dyma y lle i roddi barn ar yr ysgrif; ond rhaid i bawb addef fod athrylith ynddi; a'i bod yn ddarluniad rhy gywir o lawer, sydd eglur oddiwrth yr effeithiau a gynyrchodd. Nis gallasai dim ond ei gwirionedd beri i gynifer deimlo oddiwrthi. Cynhyrfodd diaconiaid trahaus yn ei herbyn, a chefnogid hwy gan weinidogion ofnus, y rhai yn ddirgel a ddywedent bethau tra gwahanol—pasiwyd penderfyniadau i beidio derbyn y Dysgedydd i dŷ, ac i anfon at y Golygydd i'w gondemnio am adael iddi ymddangos—gwelid y rhifynau dyfodol o'r Dysgedydd yn bentyrau—ac ofer oedd i'r dosbarthwyr ei gynyg i'r derbynwyr digofus. Brawychodd yr Hen Olygydd er ei holl bwyll a'i hunanfeddiant, a bu am yspaid fel un heb wybod pa beth i'w wneyd. Dylifai llythyrau ato gyda phob Post yn ei fflangellu yn arw; a dylifant hefyd i'r swyddfa, yn gwahardd anfon ychwaneg o'r Dysgedydd i'r lleoedd lle yr ydoedd oherwydd yr ysgrif dan felldith ysgymundod. Ceisiodd lonyddu y cythrwfl gyda nodiad golygyddol yn y rhifyn dyfodol; ac ymddengys y nodiad hwnw i ni yn berffaith resymol. Dyma fe

'Drwg genym fod amryw o'n cyfeillion wedi cynhyrfu cymaint ag a wnaethant, wrth weled a darllen ysgrif Scorpion yn ein rhifyn diweddaf. Meddianwch eich amynedd am dipyn bach, nes y gweloch y diwedd. Os gwir y mae Scorpion yn ei ddyweyd, nis gallwn lai na disgwyl yr ergydion trym-