Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/156

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

af i ddisgyn arnom; ond os anwir nid rhaid i ni ofni na dychrynu rhagddo ef—hawsaf o lawer ydyw dangos iddo ef a phawb eraill eu camgymeriad. Ni raid i'r dieuog ofni sefyll ei brawf. I'r euog y perthyn ofni; y gwir sydd yn lladd. Dywedwyd llawer o bethau am Annibynwyr ac Annibyniaeth yn Haul Llanymddyfri; a chwynir ac achwynir yn awr gan ein gohebydd doniol Scorpion; a chan ei fod yn siarad mor gyffredinol, chwenychem i'r mater gael ei chwilio i'r eithaf, fel y byddo i'r ddedfryd o ddieuogiaeth gael ei chyhoeddi uwch ben yr eglwysi Annibynol, ac iddynt ddyfod allan fel aur wedi ei buro trwy dân.

Da iawn—dyna ddigon byth o ymddiheurad, a drwg iawn genym i'r Hen Olygydd parchus—ar ol gwylio cyhoeddiad yr enwad yn ofalus, fel tad yn gwylio ei blentyn, am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain—ymostwng i wneyd rhagor. Beth bynag am gywirdeb y darluniad a roddir gan Scorpion o'i gymhwyso yn gyffredinol, yr ydym yn sicr o un peth, mai y dynion a ddarlunid ganddo, a gododd y dymhestl yn erbyn yr ysgrif, a'r Dysgedydd, a'i Olygydd. Ni welsom yn un diacon da wedi teimlo dim oddiwrthi, oddigerth ambell un oedd dan ddylanwad y dosparth a ddisgrifir mor gywir yn yr erthygl.

Nid yw yr ymddiheurad yn rhifyn Rhagfyr wedi ateb y dyben i dawelu y cythrwfl; a dyma un gostyngeiddiach yn rhifyn Ionawr:—"Dwys ofidiwn oblegid i ysgrif Scorpion friwio teimladau diaconiaid ffyddlawn a da. Pe gwybuasem y parasai haner y blinder ysbryd a wnaeth iddynt hwy, ni chawsai ymddangos. Yr ydym yn hollol annghymeradwyo cyffredinedd a style ysgrif Scorpion. Ymdrechwn na chaffo ysgrif o stamp hon ymddangos mwyach. Ysgrifenodd lluaws o frodyr atom yn ardystio yn ei herbyn, a cheryddwyd ni yn llym gan rai o'i phlegid; ond dangosid ysbryd addfwyn, cariadlawn, a theimladwy, yn y rhan fwyaf o honynt. Yr ydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cydymdeimlad a ni o barth yr 'amryfusedd' hwn. Ni raid i neb betruso yn nghylch ein hymlyniad wrth egwyddorion Annibyniaeth na'n