Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/158

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Hen Olygydd yn anfoddlawn iawn iddo, ydoedd y gair a ledaenwyd gan ryw rai fod ei olynwyr ef yn ngolygiaeth y Dysgedydd wedi ei gymeryd dan 200p. o ddyled, a bod rhyw frawd wedi dyweyd hyny yn Nghaernarfon rywbryd wrth fyned oddiamgylch yn achos y Dysgedydd. Ar y mater hwnw dywed, "Pa fodd bynag y bu i'r brawd hwnw gyhoeddi y fath beth o'r pulpudau, y mae yn hollol anwireddus. Mae yn wir fod y Dysgedydd tra y parhaodd yr hen olygiaeth am 31 o flynyddoedd yn eiddo yr enwad Annibynol yn gyflawn, a than lywodraeth dirprwy yr enwad yn hollol; ond ar derfyniad yr olygiaeth aeth trwy gydsyniad y dirprwy yn feddiant i'r Golygwyr presenol a'r argraffydd. Hollol annghywir yw dyweyd fod 200p. o ddyled arno ar y pryd. Tystiolaeth y gwyr a edrychasant dros ei gyfrifon wrth gyfeisteddfod llawn, Awst 25, 1852, ydoedd fod tua 50p, o ddyled arno, hyny yw, fod yr arian a ddaeth i law yn fyr i ateb yr hyn a aethai allan yn ei achos o gymaint a 50p. neu yn agos i hyny. Ond sylwer yma fod digon o ol—ddyledion ar lyfr yr argraffydd, a mwy na digon i ateb i'r gofynion dyledus iddo ef a'r Hen Olygydd (hwy yn unig oedd y gofynwyr). Casglodd yr argraffydd gymaint ag a fedrodd o'r ol—ddyledion hyn, ac un gwych dros ben am hyny ydyw 'ef; nid wyf yn gwybod y swm a gafodd— dywed ef mai ychydig oeddynt ond ni ddywedodd pa faint ydyw yr ychydig hyny wrth ei gydofynwr, na neb arall yr wyf yn tybied. Pa fodd bynag am hyn, ni ddaeth yr un hatling i logell yr Hen Olygydd!—aethant oll i logell yr argraffydd! Pe buasai pawb yn talu buasai wedi cael digon i ateb ei ofynion ei hun a'r Hen Olygydd hefyd; oblegid dywedodd wrthyf, "Pe buasai pawb yn talu, ni buasai dim dyled ar y Dysgedydd." O ganlyniad gellid meddwl fod gan yr Hen Olygydd fwy o achos i gwyno na neb arall.”

Ni bu yr olygiaeth fel y gwelir gan hyny ond o ychydig elw arianol iddo; ond yr oedd yr hyfrydwch a deimlai yn ei waith yn llawn ddigon o dâl ganddo ef am bob trafferth. Ond yn sicr dylasai un a wnaeth y fath wasanaeth gwerthfawr i lenyddiaeth gyfnodol ei enwad gael cydnabyddiaeth llawer helaeth-