Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/159

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ach nag a dderbyniodd; a digon tebyg genym nad oes neb wedi gwneyd cymaint o waith, a bod o gymaint gwasanaeth i'w cenedl a'u gwlad a'r gweinidogion hyny sydd wedi rhoddi yr oll o'r amser a allent hebgor oddiwrth ddyledswyddau eu swydd, at addysgu a chyfranu gwybodaeth i'w cydgenedl drwy y wasg. Dydd y farn yn unig a ddengys swm mawr eu gwasanaeth. Barnodd Mr. Jones fod ei oedran yn galw arno i ymneillduo o gyfrifoldeb yr olygiaeth; ac y gallasai rhyw rai ieuengach wneyd y gwaith yn fwy effeithiol i gyfarfod ag ysbryd cynyddol yr oes; ac oblegid hyny cyflwynodd yr oruchwyliaeth i fynu mewn cyfarfod rheolaidd a gynhaliwyd yn Nolgellau Awst 25, 1852, ac ymddiriedwyd ei ofal am y dyfodol i nifer o frodyr talentog a phoblogaidd; ac yn y rhagymadrodd ar ddiwedd y flwyddyn hono, yn ei anerchiad ymadawol, gwelir ei fod yn gollwng yr awenau o'i law yn siriol a llawen gyda'r dymuniadau goreu i'w olynwyr yn yr olygiaeth.

PENNOD XIII

Yn Ymneillduwr

Yn Ymneillduwr egwyddorol—Nid wedi ei wneyd gan amgylchiadauAnffaeledigrwydd cynnadleddau—Traethawd y Parch. H. Pugh, ar y Degwm—Anfanteision a gwrthwynebiadau y dyddiau hyny—Dim camp bod yn Ymneillduwr pan y mae y lluaws felly—Brodyr yn rhodio mewn cyfrwystra—Yn dal pwys a gwres y dydd.

Yr oedd Mr. Jones yn Ymneillduwr o egwyddor; ac nid wedi ei wneuthur gan amgylchiadau. Sonir llawer, yn y dyddiau hyn, na fuasai dim Ymneillduaeth yn bod yn Nghymru, oni buasai annuwioldeb offeiriaid yr oes o'r blaen; fod yr Eglwyswyr, yn gyffredin, yn Esgobion, Perigloriaid, a Churadiaid, heb ddeall yr iaith; eu bod yn gwneuthur eu hegni i'w chael oddiar wyneb y ddaear; ac fod y Cymry wedi digio yn arswydus o herwydd yr holl bethau hyn gyda'u gilydd, a gadael yr Eglwys; ond y mae hyny yn gamsyniad mawr, canys yr oedd Ymneillduwyr yn Nghymru cyn dyddiau Howel Harris, er na chyd