ei geryddu gan ei fam pan ddigwyddai gael codwm, a tharaw ei wegil yn y blymen, neu, pan wlychai ei draed, oblegid tori o'r rhew o dan ei bwysau, a dyfod i'r tŷ, ati hi, i gwyno oblegid y damweiniau. Gallwn feddwl mai dyddiau pwysig yn ei olwg ef, fel eraill, oedd dyddiau dasu y mawn, golchi y defaid a'u cneifio; dyddiau cael y gwair a'r yd'; "ffair Llan yr haf;" a dydd cyfarfod blynyddol yr Hen Gapel." Gallwn feddwl y chwareuodd lawer tua "Chwrt y Person," wrth ddychwelyd yn y prydnawniau, gydag eraill, o ysgol ddyddiol Rhosyfedwen; a'i fod yn aml yn ofni ac yn petruso wrth geisio myned dros y sarn, pan fyddai y llif ychydig dros y ceryg, ac wedi cyflawni y gamp hono, yn neidio ac yn llemain o lawenydd am lwyddiant ei wrhydri, yn hyny o beth. Digon tebyg ei fod ef, fel ei gyffelyb o ran oed, yn brysur tua chalanmai yn chwilio am nythod adar, ac yn Medi, yn chwilio am y cnau yn y byrgyll. A hawdd i ni gredu ei fod ar lawer min nos, yn dyfal wrandaw ar isalaw ddofn Rhaiadr Mwy, ac yn dyfod yn ei ol i'r tŷ yn llawer mwy sobr nag yr aethai allan. Bu lawer noswaith, mae yn debyg, yn cael y fraint o aros ar yr aelwyd, yn lle myned i'w wely, pan fyddai cymmydogion yn dyfod i gyfarfod nosawl i wau hosanan, i dŷ ei rieni. Bu yn gwrandaw eu chwedleuon am amgylchiadau yr ardal, y rhyfel â Ffraingc, helwriaeth, ymddangosiad ysbrydion, dewiniaeth, llofruddiaethau, ymladdfeydd rhwng personau unigol, yn nghyd ag ychydig o helyntion crefyddol yr Hen Gapel." Nid llawer o'r dosbarth olaf a geid ychwaith yn y Deildref Uchaf, oblegid nad oedd John a Dorothy Cadwaladr yn aelodau yno; a diau mai cynil a gofalus y siaradai hen bobl Pennantlliw ar faterion eglwysig, ar aelwyd "pobl o'r byd." Gallwn feddwl yn hawdd fod areithyddiaeth Abraham Tibbott yn synu peth ar y bachgen ieuangc, a bod yr addoliad cyhoeddus yn dechreu denu ei fryd. Y mae hyny hefyd yn berffaith gyson a bod ganddo hyfrydwch, yn yr oedran yr oedd ynddo y pryd hwnw, yn mân gampiau y gym-
Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/16
Prawfddarllenwyd y dudalen hon