nabyddir hyny bob amser; ac yr oedd Mr. Jones yn perthyn i'r dosbarth hwnw o Ymneillduwyr, na wnaethai dim dan enw Eglwys Wladol y tro ganddynt, pe buasai eu gweinidogion yn angylion. Yr oedd ef yn barnu nad oes dim a wnelo awdurdodau gwladol, fel y cyfryw, â chrefydd Mab Duw; fod y Senedd a'r cysegr yn ddau beth mor wahanol i'w gilydd, ag yw goleuni a thywyllwch, nad ellir byth eu cymodi. Mai goreu pa gyntaf ytyn awdurdodau gwladol eu dwylaw halogedig oddiwrth yr arch; canys nid oes iddynt na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn.
Yr oedd Mr. Jones nid yn unig yn Ymneillduwr egwyddorol, ond yr oedd efe yn gweithio allan ei egwyddorion yn ddiofn; megys y dengys ei olygiadau yn y Dysgedydd o flwyddyn i flwyddyn. Aeth ef yn erbyn y llif yn hollol, yn un o'r trefydd mwyaf rhagfarnllyd ac Eglwysig yn Nghymru, canys yr oedd hi i fesur mawr dan grafanc y llew o Nanau, a hwnw yn uchel Eglwyswr o'r iawn ryw; ond nid ydoedd Mr. Jones yn prisio yn ngwg neb gyda golwg ar egwyddorion; nid ydoedd efe yn un i gael ei syflyd gan groeswyntoedd amgylchiadau; ac nid ydoedd yn dewis prynu ffafr gwyr mawr drwy wneyd aberth o egwyddor. Yr oedd efe yn ffaelu gweled Eglwys a gwladwriaeth wedi eu cysylltu yn y Testament Newydd; ac yr oedd efe yn ffaelu canfod ond dwy swydd yn perthyn i'r eglwys Gristionogol, sef, Henadur a Diacon. Yr oedd creu erthyglau a chyffesiadau is-law ei sylw ef yn hollol; edrychai ar y naill ddyn marwol a ffaeledig, yn llunio credo a chyffes i ddyn marwol a ffaeledig arall, yn rhyfyg, ac yn sawyro yn gryf o Rufain. Nid ydoedd efe ychwaith dros gasglu yr awdurdod i'r un man (centre) mewn dim; nac yn credu mewn anffaeledigrwydd cynnadleddau, lle y dynwaredir seneddau, neu yn hytrach y chwareuir seneddau bach, ac y byddo rhyw chwech neu saith o bersonau fyddont wedi gallu ymwthio i fwy o sylw nag ereill, yn cadw yr holl awdurdod, yr ymddyddan, a'r trefniadau yn eu plith eu hunain, gan farnu nad oes gan rai dosbeirth yn y weinidogaeth Gristionogol ddim i'w wneuthur ond ufuddhau; heb ganddynt ddim hawl i droi eu faith, ac ar bob math o dywydd, oni buasai ei fod yn feddianol ar gyfansoddiad