tafodau yn eu penau i ymofyn am reswm; ond yr oedd ef yn ystyried fod pob un yn gyfartal o ran ei hawl a'i gymhwysder i farnu drosto ei hun mewn pethau crefyddol.
Ni phetrusai efe ddim gyda golwg ar roddi cyhoeddusrwydd i'w egwyddorion, pan wnelid ymosodiad arnynt gan rywrai o feddyliau gwahanol iddo ef, megys y gwelir yn y gefnogaeth a roddes efe pan ysgrifenwyd atebion i lythyr ffol y diweddar Barch. John Elias yn mhapur yr offeiriaid yn Lloegr, sef y Record. Ymddangosodd amryw lythyrau yn y Dysgedydd ar y mater. A phan gyhoeddodd Mr. Puw ei draethawd galluog ar y degwm, dywedai ef, yn ei adolygiad arno:-"Yn mhlith y gosodiadau eraill sydd yn galw am sylw ein gwlad, nid oes yr un yn fwy teilwng na threfniant y degwm. Y mae y trefniant hwn yn drais ar gydwybod, yn orthrwm ar y wlad, ac (yn ngeiriau yr awdwr) 'mor groes i rwymau cyfiawnder ag ydyw i egwyddorion gair Duw.' Da genym gyflwyno i sylw ein darllenwyr, y traethawd hyawdl, difyrus, ac addysgiadol hwn ar y testyn. Y mae wedi ei ysgrifenu yn fyr, yn oleu, ac yn gynnwysfawr. Gobeithio yr ydym y bydd i daeniad y llyfr hwn fod yn foddion i agor llygaid llawer etto i ganfod y dirfawr wahaniaeth sy' rhwng sefydliad a Christionogaeth-rhwng crefydd y gyfraith wladol a chrefydd y Beibl."
O herwydd iddo draethu y pethau miniog hyn yn erbyn ýr Eglwys Wladol, tynodd wg yr offeiriaid yn arswydus am ei ben; a chostiodd iddo ddyfod allan mewn hunanamddiffyniad yn y geiriau canlynol:-"Clywsom bellach fwy nag unwaith fod amrai o Barchedigion yr Eglwys, yn gystal a rhai o enwad arall, yn ein dynodi ni fel terfysgwyr diegwyddor, ac fel anffyddloniaid i'n Brenin, am feiddiaw o honom symud bys yn arafaidd yn erbyn sefydliad gormesol y degwm. Am ein ffyddlondeb i'n Brenin, a'n hufudd-dod i'r llywodraeth, a'n hewyllysgarwch i farw-os bydd raid-dros iawnderau ein gwlad, nid yw ofynol i ni yngan gair. Pe cydbwysid ein hymddygiadau fel gwladwyr â'r eiddo y dosbarth ffyddlonaf o freiniol enwogion yr Eglwys Waddoledig, nid ofnem fantoliad clorianau manylaf cyfiawnder. Ond am yr egwyddor