annghristaidd o orfodi Ymneillduwyr i dalu yn anfoddawg at gynaliaeth a lledaeniad sefydliadau ac egwyddorion crefyddol a annghymeradwyant, adgyhoeddwn, gyda hyfder dibetrus, ei bod yn hollol groes i bob tegwch a chyfiawnder, ei bod yn ofnadwy niweidiol i achos y gwirionedd, ei bod yn llwyr ddinystriol i iawnderau anwylaf cydwybodau anfarwolion, ei bod yn ddianrhydedd gorwarthus ar awdurdodau uchelaf y deyrnas, a bod gwladgarwch a chrefydd yn cyd-alw yn uchel ac yn ddibaid am ei difodiad uniongyrchol a thragywyddol. Od oes awydd ac ysbryd yn neb o amddiffynwyr gorfodaeth y degwm i'w ystyried gyda manylrwydd a thegwch, mawr hoffem iddynt (yn lle gwylltwibio mewn cynddaredd o bentref i bentref, gan ogan rigymu a hustyng yn athrodgar wrth fach a mawr ein bod yn anffyddlawn i'r llywodraeth) i ddyfod yn mlaen yn foneddigaidd, fel dynion, i faes y Dysgedydd, fel i gydchwilio yn bwyllog a diragfarn pa beth sydd 'wir,' a pha beth sydd 'onest,' a pha beth sydd 'gyfiawn,' a pha beth sydd 'bur,' a pha beth sydd 'hawddgar,' a pha beth sydd 'ganmoladwy,' a pha beth sydd 'rinweddol,' canys gallwn dystio yn gydwybodol, ein bod yn gwbl ewyllysgar i sefyll neu syrthio yn ol egwyddorion cyfiawnder a rheolau yr efengyl." (Gwel Dysgedydd am 1833, t.d. 218, 311).
Ni chlywsom yr Hen Olygydd yn fwy doniol a ffraeth erioed o'r blaen. Daeth allan yn lled dda, pan yr ysgrifenai sylwadau yn nghylch Morganiaeth, a haner Morganiaeth, ar ol cyhoeddiad pregethau Hurrion; ond y mae yn fwy hyawdl wrth ddangos ei Ymneillduaeth nag y bu ar un achlysur.
Yr oedd y cenllif yn gryf ddychrynllyd pan ysgrifenai efe o blaid ei ymneillduaeth; canys nid oedd neb ar y maes fel enwadau dros hyny, ond yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr drwy drochiad. Yr oedd offeiriaid, drwy dwyll a dichell, yn gallu lliniaru ysbryd yr enwadau eraill, a'u cael yn hytrach yn fwy o'u plaid nag yn eu herbyn-ffugient ddangos parch iddynt, ar ol gweled na thalai yr erlidigaeth a godid yn erbyn Ymneillduaeth yn Mon ac Arfon, a manau ereill, yn amser Thos. Edwards, o'r Nant, pryd y cynhyrfwyd y Bardd talentog