Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/163

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw i amddiffyn y Methodistiaid; ac y daeth Mri. Charles a Jones allan yn y "Vindication," i'r "Welsh Methodists." Daeth rhyw lonyddwch dros ysbryd cyhoeddus erlidgar offeiriaid y pryd hwnw, nes enill rhai o'r Methodistiaid, a fuasent hyd y nod dan erlidigaeth, i alw yr hen Eglwys yn "fam," yn "dŵr," ac yn "amddiffynfa"; ac yr oedd cael enwad cryf a dylanwadol, yn enwedig, yn Ngogledd Cymru, i ddweyd gair o'i phlaid, yn gwneuthur yr anhawsder yn fwy i Mr. Jones ac ereill a berthynent i'r pleidiau gwanaf y pryd hwnw ; sef, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, i amddiffyn eu hegwyddorion. Yr oedd Mr. Jones, pa fodd bynag, yn Ymneillduwr cydwybodol, ymdrechgar, a selog y pryd hwnw; yn wyneb yr anfanteision mwyaf; a daliodd at hyny hyd y diwedd; a chafodd fyw i weled yr egwyddorion a bleidiai yn ffynu i raddau na ddisgwyliodd.

Nid oes dim camp mewn dyfod yn Ymneillduwr pan y mae pawb yn dyfod yn Ymneillduwyr. Gwyr yr odyn galch yw lluaws mawr sydd yn uchel eu cloch yn y dyddiau hyn o blaid Ymneillduaeth; nid oes genym fawr o ymddiriedaeth ynddynt; gwell genym ni yr hen rai a oddefasant bwys a gwres y dydd fel Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau. Adwaenem frodyr, yn perthyn i'n henwad ni ein hunain, a "rodiasant mewn cyfrwysdra" gyda golwg ar y mater hwn; ac a feient y rhai a safent eu tir, gan ddywedyd, eu bod yn gwneuthur mwy o ddrwg i achos crefydd nag o ddaioni. Aeth rhai o honynt i'r byd arall heb erioed ddangos eu hegwyddorion; ac y mae ereill yn fyw heddyw, na thynasant erioed faneg oddiar eu llaw, ac nad aethant chwarter milldir o ffordd i amddiffyn eu hegwyddorion, yn barod i ddyfod allan yn bresenol, wedi i'r ysgraff groesi i'r lan draw. Dywedid llawer na lwyddid byth; ond nid oedd hyny yn cael ei ddweyd ond fel y caffai y rhai meddalion, cyfrwys, fyned drwy y byd heb eu herlid. Ni chymerasant hwy erioed y môr mawr, ond llechent yn mhlith yr hesg, yn nghilfachau y creigiau, tra yr oedd eu brodyr o'r un argraff a Mr. Jones, Dolgellau, yn dyoddef pwys a gwres y dydd. Gofynwn yn y fan yma, enwau pwy sydd yn perarogli fwyaf