—enwau y rhai na weithiasant allan eu hegwyddorion, ynte enwau y lleill? Rhaid i bob gwaith da gael ei gychwyn gan ryw un, neu ryw rai; a phe yr arosasai Mr. Cadwaladr Jones, a'i frodyr, heb ddechreu, ni fuasai y gwaith byth wedi ei gychwyn yn Nghymru. Ni chychwynwyd unrhyw waith, fyddai yn erbyn tyb y lluaws, heb i erlidigaeth gael ei chodi; ond y mae yn anhawdd peidio sylwi gyda'r fath sang froid, chwedl y Sais, y daw y lluaws i fwynhau peth y bu eraill yn ymdrechu ei gyrhaedd er gwaethaf eu holl ystranciau a'u dichellion hwy i geisio ei atal. Y maent yn mwynhau y rhagorfreintiau a gyrhaeddwyd drwy ymdrech rhai ereill mor dawel a chysurus a phe buasent hwy wedi meddu y llaw uchaf yn mhob symudiad heb gymeryd arnynt weled neb enwad arall ar y maes—"Eraill a lafuriasant a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Gellid enwi dilead y Test & Corporation Acts, rhyddid i briodi mewn capeli Ymneillduol, a lluaws o bethau yr ymdrechodd gwir Ymneillduwyr Cymru a Lloegr o'r iawn argraff am eu cyrhaedd.
PENNOD XIV.
Y DYN, Y CYFAILL, A'R CRISTION.
Ei agweddiad corfforol—Cyfansoddiad iach—Delweddau ei feddwl—Callineb—Diddichell a digenfigen—Elfenau gwir gyfeillgarwch—Llythyr oddiwrth Williams, o'r Wern—Brawd yn mysg brodyr—Cristion cywir—Hunany mwadol—Manwl—Siriol, &c.
O ran agwedd ei gorff, dyn o daldra canolig, ac yn ymddangos braidd yn eiddil ei gyfansoddiad oedd Mr. Jones, yn enwedig yn yr ugain mlynedd olaf o'i oes. Ymddangosai yn fwy cydnerth ryw haner can' mlynedd yn ol; ond ni fu erioed, debygid, yn ŵr corffol, a grymus yr olwg arno. Er hyny, yr oedd o wneuthuriad cyfaddas i fyned trwy lawer o lafur, mewn corff a meddwl, heb i'r cyfryw effeithio ond ychydig arno. Ni allasai byth lanw y cylch gweinidogaethol y troai ynddo mor gyflawn a digoll ag y gwnai efe am dymor mor gyflawn a digoll ag y gwnai efe am dymor mor faith, ac ar bob math o dywydd, oni buasai ei fod yn feddianol ar gyfansoddiad