Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/165

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagorol. A phan ystyriom yn mhellach ei fod yn teithio yn aml i leoedd pellenig, yn gorfod bwyta ei ymborth yn afreolaidd, ac yn myned i orphwys yn yr hwyrau yr un modd, a'i fod er y cyfan, hyd ddiwedd ei oes yn heinyf fel llange, ac yn ystwyth fel mêrhelygen, rhaid i ni gasglu ei fod o gyfansoddiad heb nemawr o fanau gweiniaid yn perthyn iddo. Nid oes neb o'i gyfeillion yn cofio ei glywed un amser braidd yn cwyno oblegid gwaeledd, nes y cyrhaeddodd bron i ben ei yrfa. Pwy bynag a fethai trwy afiechyd, byddai Cadwaladr Jones yn gymhwys i fyned trwy ei waith yn gysurus bob amser. Nid oedd na'r gymalwst, na'r graianwst, na phla yn y byd yn ei flino ef na haf na gauaf. Yr oedd ei safiad yn syth, ac ychydig o blygiad yn ei wddf tua'r ddaear pan oedd yn anterth ei ddydd, a'i holl symudiadau yn bwyllog a rheolaidd.

Yr oedd ei dalcen yn uchel a chyflawn, a mwyneidd-dra yn gysylltiedig â phenderfyniad didroi yn ol yn argraffedig ar ei wedd. Nid oedd nemawr o dân athrylith yn ei lygaid; ond yr oedd yn dwyn yn ei wynepryd nodau dyn o farn benderfynol a manwl. Yr oedd ganddo gyflawnder o eiriau at ei alwad bob amser; ac yr oedd ei lais yn beraidd a swynol yn y dyddiau gynt ac hyd ddiwedd ei fywyd yn wir, ond ei fod dipyn yn undonog, oddieithr ar brydiau.

Am ddelweddau ei feddwl, yr oedd cyfartaledd a chymhwysder pob gallu i gydweithio y naill efo'r llall yn nodedig ynddo. Nid oedd unrhyw allu hynod o fawr ac ardderchog wrth ochr un arall bychan a chrebychlyd ynddo ef. Yr oedd ei feddwl fel ei gorff yn meddu cydbwysedd, cyflawnder, a pherffeithrwydd. Yr oedd ei ddeall yn loyw a threiddiol; ond nid yn gyflym fel y fellten yn ei symudiadau. Ymafaelai yn enaid unrhyw fater wedi ei chwilio yn dda gyda grym anorchfygol; ond yr oedd yn rhaid iddo gael amser i sicrhau ei afaelion. Yr oedd yn fanwl a gofalus fel yr arddansoddwr cywreiniaf, a'i glorian yn wastad yn ei law yn pwyso pob peth cyn rhoddi ei gymeradwyaeth iddo.

Yr oedd ei galon yn eang, ei serchiadau yn wresog a chryfion, ac yn ymlynu wrth yr hyn a farnai yn dda, cywir, a theilwng,