Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/166

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn rymus a pharhaol. Egwyddorion iachus a phur, a'r rhai hyny yn cael eu maethu a'u nerthu yn wastadol gan ddylanwad o'r nef â'r gwirionedd datguddiedig, oedd yn teyrnasu ar orsedd ei galon. Parai hyny fod gallu a diysgogrwydd yn mhenderfyniadau ei ewyllys. Nid rhyw lawer o dwrf a gadwai ef gyda ei benderfyniadau; ond yr oedd grym un o ddeddfau cryfion natur yn perthyn iddynt. Nid oedd ei gôf yn gallu cymeryd i mewn bethau yn eu holl fanylion, gan eu cadw felly am flynyddoedd, fel y gwnai côf ambell un; ond daliai swm a sylwedd y pethau a ddarllenai neu a wrandawai, yn gyflawn a digoll. Ysbryd y pethau, ac nid eu ffurf fyddai ganddo ef. Ysbryd adnodau y Beibl, ysbryd y pregethau a glywai, ac ysbryd y traethawd a ddarllenai a fyddai ganddo yn ei gof: ond yr oedd tyrfa fawr o'r ysbrydion hyny yn wastadol ganddo wrth law. Gallai alw ar unrhyw un o honynt i wasanaethu ei amcan, a deuent oll yn ufudd wrth ei archiad. Ychydig iawn a soniai efe byth am ei gydwybod, ond yr oedd yn wastadol ar y fainge yn barnu yn ol ewyllys datguddiedig Duw. Cydwybod wedi ei phuro, a'i goleuo, ei hunioni, a'i thawelu yn gyfreithlon trwy waed Crist oedd yr eiddo ef.

Fel dyn, yr oedd Mr. Jones yn llawn o gallineb, ac yn cael ei ystyried felly gan bawb a'i hadwaenai; ond "nid oedd dichell yn ei ysbryd." Yr oedd yn ddiniwed, ac ni feddyliai ddrwg am ei gyd-ddynion, ond nid yr ehud, a goeliai bob gair oedd efe chwaith. Ewyllysiai a gwnai ddaioni i bawb mor bell ag y gallai; ond gwyddai gystal ag undyn byw beth yw teilyngdod, a pha le y byddai. Yr oedd yn frawd i Job ei hunan mewn amynedd, os nad oedd yn rhagori arno; ond medrai lefaru yn llym ac awdurdodol pan fyddai angen am hyny, a byddai ei eiriau a'r achlysuron felly yn gryfion a thrymion ac yn dreiddiol ac ysol fel olew berwedig. Os daeth Cymro erioed i fyny â geiriau yr Arglwydd Iesu, "Yn eich amynedd meddianwch eich eneidiau," Hen Weinidog Dolgellau oedd y dyn. Gwelwyd ef gyda chyfaill yn teithio dros fynydd uchel ar wlaw trwm, ac ar y lle uchaf oll yn gorfod disgyn oddiar ei