Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/167

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anifail am fod strap un o'r gwrthaflau wedi tori. "Beth a wneir iddo fo?" meddai yn bwyllus. Aeth i'w logell i chwlio am ei bin-gyllell, a chafodd hi. Yna chwiliodd o logell i logell am gortyn, a bu mor ffodus a chael hwnw hefyd. Wedi hyny, dechreuodd dori tyllau drwy y lledr â blaen y gyllell, a rhwymodd y darnau yn nghyd gyda'r llinyn. Codai ei olwg tua'r cymylau i edrych a oedd dim gobaith i'r gwlaw ysgafnhau. Yna aeth i'w logellau i edrych a oedd wedi cadw y gyllell a gweddill y cortyn. Yr oedd y cyfrwy erbyn hyn yn wlyb iawn, gan hyny aeth yn bwyllog i logell arall, tynodd ei chwysgadach allan, a sychodd ef, rhoddodd hwnw yn ei ol yn ei le, ac aeth ar gefn ei anifail, a dywedodd wrth ei gyfaill, "Onid oedd o yn ddiflas i'w ryfeddu pan dorai yn y fan yna? Wel ni awn bellach yn weddol gysurus. Mae yn bwrw tipyn onid ydi hi?" Ond beth yw hynyna? Aeth ef drwy ganol holl brofedigaethau bywyd personol, teuluaidd, cymydogaethol, a chyhoeddus yn berffaith dawel a digyffro, heb ofni dim na neb, ond y Brenin mawr. Yr oedd ei galon yn ddisigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd. Ni fu erioed yn uchel geisiol fel gweinidog, pregethwr, nac ysgrifenydd; ni chenfigenai wrth neb; llawenhai yn llwyddiant ei frodyr; ymddiriedid ynddo, a phwysid ar ei air gan ei holl gydnabyddion; ac nid yn ofer y gwnaent hyny. Dyn cyflawn yn mhob peth, heb nemawr os unrhyw wendid yn perthyn iddo oedd yr Hen Batriarch o Gefnmaelan. Gwr doeth, uniawn, gostyngedig, a thirion dros ben oedd efe.

Fel cyfaill, un caredig, cywir, a siriol iawn ydoedd. Hoffai fod gyda ei gyfeillion, a gwnai aberth yn aml er cael mwynhau eu cyfeillach. Byddai y derbyniad gwresog a chalonog a roddai i'w gyfeillion yn ei dŷ, ar ei faes, ar y ffordd, neu yn yr addoldy yn eu gwneyd ar un waith yn ddedwydd ac yn berffaith gartrefol gydag ef. Medrai ysgwyd llaw â chyfaill yn well na neb. Yr oedd ei holl galon yn y gorchwyl cyffredin hwnw, ond yr oedd yn anghyffredin fel ei cyflawnid ganddo ef. Ni ddywedai air bychan byth yn nghefnau ei gyfeillion, ac amddiffynai hwynt, os ymosodid arnynt gan eraill. Yr