oedd yn ffyddlon iddynt, ac yn barod i'w gwasanaethu yn mhob dull y gallai wneyd hyny. Yr oedd cyfeillion ei ddyddiau boreuol a chanol ei oes yn hoff ganddo yn ei henaint. oeddynt gan mwyaf wedi ei flaenu ef i'r byd arall; ond yr oedd eu henwau, a phob rhinwedd a berthynai iddynt yn anwyl ganddo, ac yn werthfawr yn ei olwg tra fu ganddo anadl i'w thynu. Yr oedd fel un yn byw yn eu canol hyd derfyn ei oes. Ac nid yn unig hoffai ei hen gyfeillion, ond yr oedd yn gwneyd rhai newyddion yn barhaus. Yr oedd ganddo lonaid gwlad o honynt. Yr oedd yn gyfaill i bob dyn da, a phob dyn da yn gyfaill iddo yntau.
Yr oedd Mr. Jones yn ffyddlon i rybuddio ei gyfeillion yn y pethau a welai yn feius ynddynt. Dywedai yn bwyllog a doeth wrth ei gyfaill os byddai yn ei weled yn gwyro oddiar ganol y ffordd tua'r ymylon, ar y naill law neu y llall. Dengys y llythyr canlynol a anfonodd Mr. Williams, o'r Wern, ato, wirionedd y sylw uchod. Ysgrifenodd Mr. Jones lythyr at Mr. Williams, yn beirniadu ar ryw ymadroddion ac ymddygiadau o'i eiddo, a chafodd yr atebiad a ganlyn:
Fy Anwyl Frawd,
WERN, Medi 26, 1829.
Yr wyf yn rhwymedig i chwi am y cynghor iachusol a gynnwysai eich llythyr diweddaf. Awgrymasoch fy mod i yn dueddol i fyned i eithafion am bersonau a phethau, a rhoddasoch i mi gynghor difrifol i gymeryd gofal am fod yn gymhedrol, ac i beidio meddwl, a llefaru yn rhy fyrbwyll am bersonau neu bethau. Amen, ac Amen.
Yr engrhaifft a roddasoch oedd yr hyn a ddywedais yn Llanbrynmair; a thybiwn eich bod wedi rhoddi y gryfaf a allasech gofio i'm hargyhoeddi o'm bai. Ond yr wyf fi yn y tywyllwch, ac heb wybod pa le y mae yr eithafion yn yr ymadrodd hwnw. Ni honais unrhyw anffaeledigrwydd ar y pwnge. Ni roddais fy marn yn gyfraith i neb. Ni chondemniais neb. Dim ond amlygu fy nheimladau fy hun ar y mater. Prin yr wyf yn meddwl y buasai offeiriad Pabaidd yn ei deimlo.
Yn eich llythyr nesaf, nid wyf yn amheu na byddwch mor deg a dangos mai rheol y Testament Newydd a'r Hen hefyd, ydyw, Fod i ni dderbyn plant i'r eglwys yn ddirgel, a bod holl ddybenion Bedydd yn cael eu cyrhaeddyd yn y ffordd hono; a dangos yn mhellach pa mor bell y gwyrais i oddiwrth y rheol hono tuag eithafion. Yr ydych chwi yn fy anog i fynu cael barn Mrs. Williams ar y pwngc; ond yr wyf yn ofni nad yw hi yn ddigon diduedd i roddi barn deg ar y mater: