brodyr a chwiorydd oedd ef, bob amser, yn mysg y saint. Ni ddyrchafai ei hun. Nid oedd yn tra—arglwyddiaethu ar eraill. Byddai yn wastadol yn gydostyngedig â'r rhai isel radd.
Dysgodd hunan—ymwadu gydag achos crefydd. Rhoddai bob peth heibio, os byddent yn rhwystr i lwyddiant crefydd a moesoldeb yn ei deulu, yn yr eglwysi, neu yn y wladwriaeth. Ar y tir hwn y rhoddodd y diodydd gwirfol o'r neilldu. Gwelwyd dynion yn sefyll yn gyndyn dros eu hawliau i yfed y peth a fynont, a'r byd yn suddo i gorsydd dyfnion meddwdod o'u hamgylch, ac ar yr un pryd, mynent fod yn "arweinwyr yr oes mewn moesau a rhinwedd. Nid ydym yn petruso dywedyd, fod y cyfryw ddynion yn rhy hunan—geisiol, ac nad ydynt yn deall na deddf nac efengyl, na philosophi crefydd Crist yn gywir, o gwbl. Ond nid un felly oedd gwrthddrych y cofiant hwn. Dysgodd ef hunanymwadu. Llafuriodd yn galed a doeth, heb geisio ei leshad ei hun, ond lleshad llaweroedd, fel y byddent hwy gadwedig.
Cristion manwl iawn ydoedd, gyda holl ddyledswyddau crefydd. Darllenwr manwl, myfyriwr manwl, un manwl gyda chrefydd deuluaidd, a gweinidogaeth yr efengyl, yn ei holl ranau, a fu ef ar hyd ei oes. Ond wrth ddyweyd ei fod yn un manwl, nid oes dim yn mhellach oddiwrth ein meddwl nac awgrymu ei fod yn ffurfiol a Phariseaidd. Yr oedd yn anrhaethol bell oddiwrth bob rhodres a choegedd. Nid oedd yn ei wyneb, ei lais, na'i ddim ag a barai i'r mwyaf drwgdybus amheu ei fod yn ceisio ymddangos yn ddim ond y peth ydoedd mewn gwirionedd. Yr oedd yn rhy eang ei feddwl i ymrwystro gyda phethau bychain—'hidlo gwybedyn, a llyncu camel' —ac etto yr oedd yn fanwl a chydwybodol i esgeuluso pethau a ystyriai yn bwysig mewn crefydd pa mor fychain bynag yr ymddangosent.
Ceid ef yn Gristion rhydd, a diragfarn at enwadau eraill o Gristionogion bob amser. Meddyliai yn uchel am dalentau, a duwioldeb, a defnyddioldeb llawer o ddynion a wahaniaethent yn fawr, o ran eu golygiadau ar byngciau crefydd, oddiwrtho