ef: ond ni rwystrai hyny iddo eu caru fel brodyr, a chydweithredu gyda hwy yn mhethau cyhoeddus a chyffredinol crefydd, a byw mewn heddwch diragrith a hwy oll. Ni welwyd odid neb yn dal ei olygiadau ei hun ar wirioneddau yr efengyl yn dynach, a mwy penderfynol, nag ef: ond, ar yr un pryd, ystyriai ei fod yn ffaeledig, a bod gan eraill yr un hawl i farnu drostynt eu hunain ag oedd ganddo yntau.
Cristion siriol fyddai ein hen gyfaill, bob amser. Ni thorai galonau ei frodyr a'i chwiorydd drwy gwyno, ac ocheneidio : ond ymddangosai yn wastadol yn galonog a diofn. Er hyny, yr oedd ei sirioldeb yn gysylltiedig a sobrwydd a dwysder. Pan fyddai yn cyflawni rhyw wasanaeth crefyddol ei hunan, nid oedd dim cell wair yn agos ato ef. Pan yn gwrandaw ar eraill yn pregethu, gwrandawr sobr, ac astud hollol a fyddai. Rhoddai esiampl o sobrwydd mewn cysylltiad a sirioldeb i bawb o'i gydaddolwyr.
Yr oedd yn Gristion gwastad a difylchau yn ei ymarweddiad, drwy ei holl fywyd. Nid oedd tymhorau diffrwyth a gauafaidd ar ei grefydd ef. Yr oedd "llwybr y cyfiawn hwn fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd." Yr oedd iddo "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.” Diau fod colliadau a gwaeleddau ynddo yntau, fel yn ngoreuon plant Adda: ond nid llawer oedd eu nifer, ac ni wyddai neb nemawr am danynt ond ef ei hun, a'r Brenin Mawr. Yr oedd ei fuchedd yn hynod o lân—mor lân ag y gellir disgwyl i bechadur fod ar y cyfan, yn y fuchedd hon.