Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/172

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XV.

Y PENTEULU, Y CYMYDOG, Y GWLADWR.

Cysylltiadau Teuluaidd—Yr Allor—Y Gweinyddiad—Y Plant a'r Gweision—Adrodd Pregethau—Ateb i'r Curate—Dysgyblaeth yn y TeuluLlythyr yr Hybarch H. Morgan, Samah—Llywodraethu ei achosion wrth farn—Ei Anedd yn llety fforddolion—Amgylchiadau yn newid— Cyfranu at gynal yr Achos. CYMYDOG—Yn rhoddi benthyg—Cylch eang, Bedyddio, Priodi, Claddu—Ymweled a'r Cleifion—Cynghorwr— Cyfreithiwr, a threfnwr amgylchiadau. GWLADWR—RhyddfrydwrCydredeg a Gwelliantau yr Oes—Dim cywilydd arddel ei Egwyddorion—Robert Vaughan—Capt. Williams—Hawlio ei iawnderau fel Gwladwr.

Yr ydym eisoes wedi cael mantais i edrych ar wrthddrych y Cofiant hwn, yn ei gymeriad fel gŵr ieuangc hynaws a phrydweddol.

Yr oedd natur a gras, wedi hyfryd gydgyfarfod, a chymwys gydnawseiddio holl deithi ei feddwl a theimladau ei galon, fel ag i'w gymwyso i addurno holl gysylltiadau y bywyd teuluaidd a cymdeithasol. Y mae yr elfenau hyny a'i hynodent mor amlwg yn ei garitor sengl, fel gŵr ieuangc, yn gosod neillduolrwydd hefyd ar ei gymmeriad fel penteulu, cymydog, a gwladwr.

Pan yr ymsefydlodd efe gyntaf fel bugail yr eglwysi Annibynol yn Nolgellau a'r cylchoedd, y mae yn gwneyd ei gartref yn y Perth-llwydion, Brithdir, gerllaw Dolgellau, gyda thad a mam ei ragflaenydd, y Parch. Hugh Pugh. Ond nid oedd efe yma, ond megys un yn lletya dros noswaith. Y mae yn edrych yn mlaen am gartref mwy sefydlog a chydnaws a theimlad ei galon.

Yn y flwyddyn 1813, Mai 11eg, ymbriododd a Margaret Jones, merch i Rees Griffith, ac Ellen Jones, (fel eu gelwid,) o'r Farchynysfawr, gerllaw yr Abermaw, y rhai oeddynt amaethwyr cyfrifol; ac yr oedd Margaret Jones yn ferch ieuangc grefyddol a pharchus. Yr oedd ganddi un brawd a dwy chwaer. Y naill ydoedd tad Mr. John Griffith, "Y Gohebydd,” ac un o'r chwiorydd ydoedd mam y Parch. Rees Jones, o'r Felinheli, gweinidog parchus gyda y Trefnyddion Calfinaidd, a'r llall ydoedd wraig i amaethwr parchus, yn Uwchlaw'rcoed, Dyff-