Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/173

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ryn. Yr oedd hen deulu y Farchynys yn nodedig am eu crefyddolder, ac yn gysurus y tu hwnt i'r cyffredin, o ran eu hamgylchiadau.

Bu Mr. a Mrs. Jones yn byw am rai misoedd ar ol priodi, yn y Farchynys, ac yna symudasant i'w tŷ eu hunain, yn nhref Dolgellau. Bu iddynt dri o blant—dau a fuont feirw, yn eu mabandod, a'r llall, (sef John) sydd yn aros hyd yr awr hon. "A hyn hefyd sydd am fod yr amser yn fyr, fod i'r rhai sydd a gwragedd iddynt megys pe byddent hebddynt." Ni pharhaodd eu hundeb priodasol ond prin chwe' blynedd. Amddifadwyd ef o briod ei ieuengetyd ar y 3ydd o Ebrill, 1819, yn dra disymwth. Claddwyd hi yn hen fynwent eglwys y plwyf, yn Nolgellau, a dywedir fod y claddedigaeth yn un o'r rhai lluosocaf a welwyd yn y wlad—yr oedd yr offrwm yn yr eglwys ar y pryd dros 12p. Swm lled dda i'r person am gladdu gwraig i weinidog Ymneillduol y diwrnod hwnw, onid te?

Yn mhen rhyw saith neu wyth mlynedd, symudodd Mr. Jones o'r dref i fyw; cymerodd fferm o'r enw Trefeiliau, rhyw filldir neu ychydig yn ychwaneg i'r De-ddwyrain o Ddolgellau. Paham y mae efe yn ychwanegu goruchwylion amaethyddol at eiddo y weinidogaeth—ei ofal dros yr holl eglwysi—(oblegid yr oedd ganddo ryw chwech neu saith o'r cyfryw o dan ei fugeiliaeth)—sydd ofyniad nad yw yn dyfod o fewn cylch yr ysgrif hon i'w ateb; digon yw dyweyd, gyda llaw, fod yr esboniad i'w gael yn amgylchiadau yr eglwysi yn y dyddiau hyny. Ac Ac er nad yw galwedigaeth yr amaethwr y fwyaf enillfawr o alwedigaethau y bywyd hwn, efallai ei bod wedi gwasanaethu yn llawn mwy anrhydeddus, er cynorthwyo nid ychydig o weinidogion yr efengyl yn y Dywysogaeth, i ddarparu ar gyfer eu hamgylchiadau teuluaidd, ag unrhyw alwedigaeth arall.

Yn y flwyddyn 1823, yr ydym yn ei gael yn priodi drachefn, â Catherine, merch o deulu lluosog a ddalient dyddyn bychan o dir, a elwid y "Ceinewydd," yn mhlwyf Llanaber, yn agos i'r Abermaw. Yr oedd hon etto yn ferch ieuangc