brydweddol, a nodedig am grefyddolder ei hysbryd, a pharchusrwydd ei chymmeriad; a meddai ar gymwysderau naturiol i droi yn y cylch pwysig fel "gwraig gweinidog" mewn modd cymeradwy a derbyniol. Yr oedd ei "henw da fel yr enaint gwerthfawr, ac yn well na chyfoeth lawer;" bu yn "goron i'w gŵr" trwy ystod ei gyrfa briodasol. Bu iddynt chwech o blant, ac oll yn feibion! Eu cyntaf—anedig a fu farw yn faban, ac un arall (sef David) yn 37 oed, ac a gladdwyd o fewn y chwe' mis i'r un dyddiau, ac yn ymyl ei hybarch dad yn nghladdfa y Brithdir.
Tua'r flwyddyn 1833, symudasant o'r Trefeiliau i fferm helaethach tua'r un pellder o dref Dolgellau, ond o'r tu arall i'r afon, a elwid Cefnmaelan, lle y buont yn cartrefu hyd derfyn eu gyrfa. Yr oedd y symudiad presenol yn ychwanegu cryn lawer at eu gofalon, ac yr oedd eu teulu erbyn hyn yn lluosog.
Tua diwedd y flwyddyn 1844, cymerwyd Mrs. Jones yn glaf, a bu yn gwanychu hyd Chwef. 14eg, 1845, pan y gorphenodd ei gyrfa ddaearol, yn 50 mlwydd o'i hoedran. "Yr hon a blantodd saith a lesgäodd, ei haul a fachludodd a hi etto yn ddydd." Claddwyd hi yn hen addoldy yr Annibynwyr yn Nolgellau, o dan fwrdd y cymundeb: ond foreu dydd angladd ei phriod, symudwyd hi, (ar gais ei meibion) o "fan fechan ei bedd" yn y dref, i'r un bedd ag yntau yn mynwent y Brithdir; ac fel y sylwai y Parch. E. Evans, Llangollen, ar lan y bedd agored, "Symudwyd hi heb ei deffro" i gydorphwys a'u gilydd hyd y boreu y deffroir hwynt wrth udgorn, Duw.
"Holl gwynion y gweinion wrandawai,
A thorf angenoctyd gai'i nawdd."
Dyma ein gwrthddrych etto wrtho ei hun—wedi ei amddifadu o gynorthwy yr hon a fu iddo yn "ymgeledd gymwys" am yr yspaid o ddwy flynedd ar hugain. Ac y mae efe yn nghanol helbulon a gofalon amaethyddol a theuluaidd heb son dim am ei ymrwymiadau gweinidogaethol—a'r plant etto ar haner