gweddiau yn dangos dwysder teimlad, a phrofiad helaeth of wirioneddau crefydd. Ac fe hir gofia rhai o'i phlant am ei thaerineb yn anerch gorsedd gras ar ran ei theulu ar yr aelwyd eu magwyd.
Ond ganol dydd ydoedd prif adeg yr addoliad teuluaidd; dyma brif oedfa y teulu. Ac yr oedd yn rhaid i bob peth roddi ffordd i hon. Nid oedd presenoldeb dieithriaid na phrysurdeb ffair na marchnad; nac adeg cynhauaf y gwair na'r ŷd, nac unrhyw amgylchiad arall i gael sefyll yn ffordd yr oedfa ganol dydd yn y tŷ hwn.
Ië, nid oedd arwyddion gwlaw, pan y byddai y cae gwair yn daenedig, neu yr ŷd yn barod i'w gludo i'r ysgubor yn ddigon pwysig i atal ychwaith, na gohirio y "ddyledswydd" ganol dydd. Byddai rhai o'r gweision, wrth weled y cymylau yn ymgasglu, a'r awyrgylch yn trymhau, a'r gwair a'r ŷd ar chwâl, bron colli eu hamynedd, eisiau cael gohirio y "ddyledswydd" hyd ryw adeg arall. Ond nid oedd dim allasai gynhyrfu y penteulu i esgeuluso yr allor deuluaidd yn ei phryd. Yr oedd efe braidd bob amser yn meddwl mai gwell oedd "cadw dyledswydd" doed a ddelo!
Y mae yn gofus i'r ysgrifenydd unwaith eu bod ar ddyledswydd yn Nghefnmaelan, pan yr oedd y penteulu ar ganol gweddio, dechreuodd a gwlawio-gwlaw taranau yn drwm, ac yr oedd y gwair ar daen, gydag iddo orphen, dyma bawb, allan, yn llawn brys gwyllt, daeth yntau i'r drws, yn berffaith dawel a digyffro, a bloeddiai rhyw un ei bod yn myned i wlawio yn drwm. "Wel "ebe yntau, " y mae hi braidd yn debyg i wlaw, onid ydi hi." Yr oedd efe bob amser yn gallu meddianu ei hun mewn amynedd, gan nad beth fyddai yr amgylchiadau.
Dull gweinyddiad y ddyledswydd deuluaidd yn Nghefnmaelan ydoedd i bawb ddarllen ar gylch; yr oedd pawb trwy y tŷ a'u Beiblau neu eu Testamentau yn eu llaw, yn y fan y gorphenid ciniawa; ac yr oedd y penteulu yn gwasanaethu fel athraw-a phob aelod o'r teulu yn darllen adnod yn ei dro, a byddai yr athraw yn ofalus am sicrhau cywirdeb yn y darllen-