Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/178

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad; ac weithiau gofynid am esboniad ar ryw ymadrodd a ymddangosai yn dywyll, a cheisid ei esbonio er budd cyffredinol. Fel hyn yr oedd y gair yn cael ei ddefnyddio ar y "ddyledswydd deuluaidd " yn Nghefnmaelan; ac aed trwy yr holl Feibl yn rheolaidd, cyson, a threfnus. Yna wedi gorphen darlleniad o'r gair, yr oedd y weddi hefyd ar gylch; byddai pob un o'r planta'r gweision a dderbyniasid yn gyflawn aelodau, yn ol rheol y teulu yn gorfod arfer eu dawn i weddio yn eu tro. Fel hyn yr oedd y plant o'u hieuengetyd yn gystal a'r gweision cyflog yn cael mantais i ymarfer eu hunain i anerch gorsedd gras yn gyhoeddus.

Yn adeg y cynhauaf byddai rhai cymmeriadau lled ddigrifol yn dyfod o'r dref i gynorthwyo. Byddai rhai yn rhoi diwrnod neu ddau o gynhauaf, ac eraill yn derbyn cyflog. Pan fyddai yr hin yn fwll a thrymaidd, a'r cynhauaf yn lled brysur, edrychai rhai o'r cymmeriadau hyn, yn mlaen at adeg y ddyledswydd ganol dydd fel cyfle manteisiol i gael "nepyn"! Yr oedd Ned—yn digwydd bod yno unwaith, ac yr oedd efe yn cael ei flino yn dost gan glwyf y diogyn. Cyn cyrhaedd i'r ty adeg ciniaw, ebe efe, wrth yr hwn a gydgerddai ag ef, "Pwy sydd i weddio heddyw, Wil?" "Wni ddim," oedd yr ateb. Wedi gorphen ciniawa, daeth y Biblau fel arfer i'r bwrdd, ac wedi gorphen a darllen, gofynai y penteulu, tro pwy oedd i weddio? Atebid, mai un o'r plant M—— Yr oedd y llanc yn bur ieuangc, ac am hyny, ni bu ond lled fyr y tro hwn. Nid cynt yr oedd Ned—trwy y drws, nad oedd efe yn dechreu adolygu y gwasanaeth y tro hwnw. Yr oedd yn hawdd deall ei fod wedi cyfarfod a thipyn o siomedigaeth. Ebe fe, "Wel, dyn a helpo M—— hefo ei weddi fèr, ches i ond prin roi 'nglin i lawr nad oedd o wedi darfod. Yr hen ddyn ydw i yn ei likio. Mi fydda i yn cael ambell i nepyn bach pan fydd o wrthi, yn lle bod fel hwna druan a'i bwt gweddi, ys gweddi oedd hi." Dyna brofiad Ned y diwrnod hwnw. Ond y mae yn bosibl i weddi fer y plentyn gwylaidd fod mor dderbyniol yn y nef ag eiddo yr henafgwr.

Byddai Mr. Jones yn ofalus am sicrhau gweision a mor