wynion crefyddol i'r teulu, hyd y byddai yn bosibl; yn neillduol pan fyddai y plant yn ieuangc; ac yn hyn yr oedd Mrs. Catherine Jones yr un mor bryderus. Ofnent rhag cael neb i wasanaethu i'r teulu a fuasai yn debyg o roddi siampl ddrwg i'r plant mewn gair neu weithred. Yr oedd ein gwrthddrych yn ymwybodol y byddai i ymddiddanion drwg lygru moesau da―ac y gallasai gwas neu forwyn annuwiol a llygredig andwyo cymmeriad y plant, a dinystrio cysur y teulu, a pheri archoll i'w teimladau, a gymerasai oes i'w wella. O'r cyfryw a ddeuent yno i wasanaethu heb arddel crefydd trwy broffes, nid ychydig a enillwyd i gofleidio y Gwaredwr, a'i broffesu yn gyhoeddus cyn iddynt ymadael oddiyno. Yr oedd darlleniad cyson o'r Gair, y weddi deuluaidd, yn nghyd a chynghorion pwyllog ac amserol y penteulu yn gosod argraph crefydd ar feddwl pawb trwy y ty, ac nid oes ond y "dydd hwnw" a ddengys effeithiau daionus gweinyddiad cyson o'r "ddyledswydd deuluaidd" a chyflawniad dysyml ac anymhongar o wahanol ymarferiadau crefyddol a'r aelwyd Cefnmaelan. Yr oedd ein gwrthddrych yn arferol, ar nos Sabbothau, wedi cyrhaedd adref o'i "daith Sabboth," a holi y pregethau -y rhaniadau, i'r plant a'r gwasanaethyddion; os yn Llanelltyd y digwyddai ei dro ef i fod y nos Sabboth hwnw, disgwyliai bob amser gael adroddiad cyson o holl raniadau y bregeth a draddodasid yn y dref. Holid yn fanwl y bregeth am 2 a 6, gan nad pa un a'i efe a'i rhyw un arall a fuasai y pregethwr. Ac yr oedd y cynllun hwn yn un tra rhagorol, er addysgu ac agor deall y plant a'r gwasanaethwyr, yn gystal ac i ailargraphu y gwirionedd ar eu meddyliau. Cafwyd llawer seiat werthfawr, addysgiadol ar aelwyd Cefnmaelan wrth adrodd pregethau ac esbonio y gwirionedd. Dyma y cynllun a fabwysiadai efe hefyd yn y gyfeillach nos Sabbothol yn yr eglwys-sef holi penau y pregethau am y dydd, a chariai yr un cynllun drachefn yn y teulu, wedi cyrhaedd o amgylch y tân-yr eglwys yn y ty? Byddai Mr. Jones yn esbonio llawer a'r byngciau athrawiaethol crefydd yn y teulu, ac yr oedd y drefn eglwysig Annibynol a'i rhagor-
Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/179
Prawfddarllenwyd y dudalen hon