foddion a arferwyd yn bennodol yn ei achos ef. Gwyddom pwy sydd yn brif ysgogydd yn mhob gwir ddychweliad. Diau iddo ef, fel eraill, fod am dymhor yn y gyfeillach grefyddol ar brawf, cyn ei dderbyniad yn gyflawn aelod; a phur debyg hefyd yw, iddo fyned drwy arholiad manwl a difrifol cyn iddo gael ei dderbyn, yn ol arfer y gweithiwr difefl oedd yn weinidog yn y lle. Y cwbl a wyddys yn ddilys yn awr ydyw hyn: fod Cadwaladr Jones wedi cael ei dderbyn yn aelod cyflawn o'r eglwys a ymgyfarfyddai yn yr Hen Gapel, yn mis Mai, 1803, pan oedd efe yn ugain mlwydd oed.
O'I DDERBYNIAD YN AELOD EGLWYSIG HYD EI FYNEDIAD I'R ATHROFA.
Dyna ni wedi dilyn ein diweddar frawd nes y daeth yn aelod yn eglwys Dduw, mewn ardal oedd wedi ei breintio yn helaeth â manteision crefyddol. Dechreuasid yr achos crefyddol yn Llanuwchllyn trwy ymdrechion hunanymwadol yr Hybarch Lewis Rees, pan ydoedd yn gweinidogaethu yn Llanbrynmair. Daeth i bregethu i dŷ yn y plwyf o'r enw Gweirglodd Gilfach, drwy anogaeth gwr y tŷ, a pherchenog y lle. Mae hanes yr oedfa hono yn ddigon hysbys, fel na raid ei adrodd yma. Bu Mr. Rees yn dyfod i Lanuwchllyn yn rheolaidd am dro, i bregethu yr efengyl, ac yn achlysurol am flynyddoedd lawer wedi hyny. Adeiladwyd capel yn yr ardal hono yn y flwyddyn 1746, rhyw wyth neu naw mlynedd wedi i Mr. Rees fod yn pregethu am y tro cyntaf yn Ngweirglodd Gilfach. Bu yn Llanuwchllyn, o leiaf, BUMP o weinidogion cyn i'r Dr. Lewis ymsefydlu yno; ond dan ei weinidogaeth ef y cyfodwyd yr Hen Gapel i'r bri a berthynai iddo yn y deuddeng mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol. Gwyddys fod gwrthddrych y nodiadau hyn yn mawrygu gweinidogaeth y Dr. Lewis, megys agos bawb a gawsant ei mwynhau yn Llanuwchllyn. Bu yn addysgiadol iawn iddo; ac er na bu ef erioed yn gaeth-ddilynwr i'r gwr enwog hwnw yn ei olygiadau neillduol, nac yn gaeth-ddilynwr i