iaethau yn dyfod ger bron weithiau. Adroddai unwaith iddo gyfarfod a Mr. A., y Curate yn Nolgellau, ar foreu Sabboth gwlawog, a lled dymestlog, fel yr oedd efe yn cyrchu i'w gyhoeddiad i Islaw'rdre, ebe Mr. A., ar ol cyfarch gwell iddo, "Y mae yr hin yn hyllig iawn, Mr. Jones." "Wel ydi braidd," oedd yr ateb. Ebe y curate drachefn, "Y mae hi yn gwmws fel Annibyniaeth onid yw hi?" "Wel," ebe yntau, "Y mae Annibyniaeth yn gwmws fel rhagluniaeth felly, Mr. A!" Aeth y gwr eglwysig ymaith gan ysgwyd ei ben, ni feddyliodd yn ddiau y buasai yr hen weinidog Ymneillduol yn ei ateb mor effeithiol.
Yr oedd ein gwrthddrych yn fanwl a gofalus i osod argraph o barch ar feddyliau y plant i weinidogion a phregethwyr yr efengyl. Byddai y rhieni bob amser yn dysgu y plant i edrych i fyny, ac anrhydeddu pregethwyr er mwyn eu gwaith a'u swydd-gan "wneyd cyfrif mawr o honynt mewn cariad." Ni oddefid i'r teulu glywed dim a dueddai i ddiraddio y weinidogaeth-cedwid holl ddiffygion a gwendidau pregethwyr yr efengyl allan o glywedigaeth y plant. Ac os digwyddai ryw amgylchiad anhapus o eiddo rhyw bregethwr ddyfod i'r amlwg, byddai y rhieni bob amser yn barod i wisgo y cwbl â'r wedd oreu, fel na lenwid meddyliau y plant a'r teulu o ragfarn yn erbyn y weinidogaeth.
Yr oedd un o'r gweision ryw nos Sadwrn, ar aelwyd Cefnmaelan, wedi dyfod o hyd i ryw dipyn o anffawd o eiddo gweinidog lled adnabyddus yn y teulu, a dechreuai ei gondemnio yn lled ddiseremoni, ac yr oedd un o'r bechgyn hefyd yn cyduno yn y condemniadau a wnaed. Yr oedd Mr. Jones yn eistedd wrth ei ford, yn prysur ysgrifenu, a pharotoi ei bregethau erbyn y Sabboth-ond yr oedd efe yn clywed y cwbl a siaredid ar yr aelwyd, ond ni ddywedodd ond ychydig y noson hono. Boreu dranoeth, cyn cychwyn i'w daith Sabboth -y mae yn galw y bachgen a gydunai a'r gwas, nos Sadwrn, ato i'r parlwr, ac yn cau y drws-y mae yn ymaflyd yn llaw y bachgen, ac mewn modd pwyllus a difrifol (ac o gymaint a hyny, yn fwy ofnadwy i'r cyhuddedig), y mae yn dyweyd