"Wrth farn y llywodraethai efe ei achosion." Ac yr oedd efe yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda. Nid nwyd ddall na mympwy ffol fyddai ei reol o weithredu, ond byddai yr oll a wnai yn ffrwyth ystyriaeth bwyllog a barn addfed. Yr oedd awdurdod yn ei eiriau ag a fyddai yn sicrhau ufudd—dod parod ac ewyllysgar trwy holl gylchoedd y teulu. Ac yr oedd y cwbl yn ufudd—dod parch a chariad. Nid yr ufudd—dod hwnw a godai oddiar ofn slafaidd, nac ychwaith oddiar lygad wasanaeth; ond yr oedd gan bawb o'r teulu y fath barch iddo, a chariad tuag ato, ag ydoedd yn gwneyd ufudd—dod iddo yn waith o bleser a hyfrydwch. Yr oedd efe yn frenin yn ei dŷ, yn ol llais pob cydwybod a theimlad pob calon. Meddai ar allu naturiol i lywodraethu, a hyny heb fod neb o ddeiliaid ei lywodraeth yn teimlo ei fod yn gormesu dim ar eu hiawnderau, nac yn cyfyngu dim ar eu rhyddid. Yr oedd ei lywodraeth yn ennill parch ac yn sicrhau anwyldeb pawb o fewn ei dy. Nid oedd raid i neb groesi ei ewyllys i roddi ufudd—dod i'w air. Byddai pob camwri yn cael ei unioni, a phob dyryswch ei gywiro trwy ei ddoethineb a'i bwyll. Os cyfodai awel groes o ryw gyfeiriad nes peri i donau cymdeithas y teulu ymchwyddo ac ymderfysgu, yr oedd efe yn meddu ar allu nodedig i daflu olew ar y dwfr cynhyrfiedig a gostegu ei donau, nes y byddai tawelwch mawr!
Nid yn aml y ceid neb a fedrai mor hylaw liniaru loesau y teimlad gofidus, ac esmwythau trallodion yr ysbryd briw. Pan y llefarai efe, byddai y pleidiau gwrthwynebol yn barod i fabwysiadu ei gynghor, a derbyn ei gyfarwyddyd; a phan y ceryddai efe, yr oedd pawb yn ufudd ymostwng, a chydnabod y wialen a ordeiniai efe ar eu cyfer.
Yr oedd efe yn mhell o fod yn meddu ar ysbryd stoicaidd o fewn ei dŷ. Ond byddai bob amser yn serchog a llawn cydymdeimlad. Medrai fyn'd i mewn i amgylchiadau personol y naill a'r llall o'i deulu, a chyfranogi o'u teimlad. Byddai ei ymddyddanion yn rhydd ac agored gyda ei deulu. Dangosai fod ganddo ddyddordeb yn eu hamgylchiadau neillduol. Ac yr oedd ei ddull cymdeithasgar yn ei dŷ, yn gyfryw fel y teimlai