Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/184

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pawb yn rhydd a diofn i draethu eu teimlad wrtho, ac yn ei bresenoldeb. Byddai y mwyaf gwylaidd o'r plant, neu y gwasanaethyddion yn teimlo rhyddid i nesu ato, a datgan eu teimlad wrtho; ac etto, nid oedd neb a fuasai yn meiddio cymeryd gormod hyfdra arno.

Gwelsom ambell i benteulu yma a thraw—ambell i dad a mam yn cadw y fath bellder (distance) oddiwrth eu teulu, fel y byddai ar y plant ofn eu presenoldeb, a'r gwasanaethyddion yn ffoi o'u gwydd. Ond yr oedd ein gwrthddrych yn wahanol iawn i hyn. Byddai pawb yn gallu nesu ato heb betruso, pa fath wrandawiad a roddai efe iddynt; gwyddai pawb o fewn y tŷ, y caent ei gydymdeimlad a'i gynghor o dan bob amgylchiad. Yr oedd ei lywodraeth yn llywodraeth cariad. Ac yr oedd heddwch a chariad yn ffynu trwy holl gysylltiadau y teulu.

Ac nid yn aml y ceid achos gan neb i ddweyd "gresyn iddo gamgymeryd" yn y naill beth neu y llall. Yr oedd ei gymmeriad crefyddol yn loyw bob amser yn ei dỳ. Nid oedd neb o'r cyfryw a fu yn ei wasanaeth, na neb o'i blant a welsant erioed unrhyw dro trwsgl, nac unrhyw ymddygiad annheilwng yn ei fywyd gartref, ag y gallesid dyweyd am dano gresyn iddo wneyd fel ar fel," neu iddo wneyd fel hyn neu fel arall y pryd a'r pryd. Na! nid oedd gan neb ddim y gallesid estyn bys ar ei ol. Yr oedd ei gymmeriad yn un cyfanwaith teg, gwastad, a difwlch, a'i fywyd yn gyson a diargyhoedd yn mhob man. Rhodiai yn mherffeithrwydd ei galon o fewn ei dŷ; ac yr oedd ei ymarweddiad difrycheulyd yn mhob dim yn esiampl i'w deulu.

Ac yr oedd elfenau cymwynasgarwch ei natur yn cael eu dadblygu o fewn i'w dŷ. Tŷ y gweinidog yn y dyddiau gynt, ac yn mlynyddau yr hen oruchwyliaeth, ydoedd lletty fforddolion y weinidogaeth. Yma y cyrchent o bob cyfeiriad yn eu hymweliadau âg ardal Dolgellau, pan ar eu hynt bregethwrol, yn ol arferiad y dyddiau hyny. Byddai ein gwrthddrych yn cael ei ran o ymweliadau dieithriaid. Ac nid oedd raid i'r dyeithr betruso na dderbynid ef yn llawen ar aelwyd