Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/185

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cefnmäelan. Yn wir, buasai yn rhaid i'n gwrthddrych newid pob deddf o eiddo ei natur, cyn y gallasai beidio a dangos caredigrwydd a chymwynasgarwch.

Pan y deuai y gweinidog dieithr o'r De, neu o'r Gogledd heibio, neu ynte rai o'r brodyr cymydogaethol, gwyddent y caent roesaw

"A lle i eistedd wrth y tân
Ar aelwyd lån gysurus."

"Ei annedd oedd letty fforddolion
I hoff weinidogion yr Iôn."

Fe gyfranodd yr hen weinidogion gryn lawer tuag at gynaliaeth yr achos yn y ffordd hon yn ngwahanol gylchoedd eu gweinidogaeth. Yn wir, hwynt hwy oedd yn cynal yr achos yn yr ystyr yma, yn mlynyddau yr hen oesau, ac o dan yr hen oruchwyliaeth. Yr oedd cyfraniadau anuniongyrchol hen dadau y weinidogaeth yn yr oes o'r blaen, yn llawer mwy at gynaliaeth yr achos nag yr ydys wedi tybio erioed. Nid oedd haelioni a charedigrwydd personol aelodau a theuluoedd ein heglwysi wedi cael mantais i ymddadblygu, na'r eglwysi ychwaith wedi eu deffro, i weled yr angenrheidrwydd o'r priodoldeb i ddarpar ar gyfer "derbyn pregethwyr" na thalu eu treuliau. Yr oedd lletya y pregethwr dieithr, braidd bob amser, yn cael ei adael i ofal gweinidog y lle. Efe oedd yn ddealledig i dderbyn "dieithriaid y weinidogaeth;" ac nid oedd neb erioed wedi cymaint a breuddwydio am iddo dderbyn unrhyw gydnabyddiaeth am hyn o wasanaeth i'r achos. Y mae llawer heddyw yn fyw, ond o bosibl fod mwy wedi meirw, y bu yn felus eu cymdeithas a'n gwrthddrych pan y lletyent o dan ei gronglwyd; ac nid oedd neb yno yn ei hystyried yn faich i weini ar weision yr Arglwydd. Byddai hyn o angenrheidrwydd, ac fel matter of course, yn perthyn i amgylchiadau y teulu. Yr oedd yno gadair i'r pregethwr i eistedd, a gwely iddo orwedd, a thamaid o fara iddo fwyta, a gwair i'w anifail, ac hwyrach ambell feed o geirch, os byddai y pregethwr yn dipyn o favorite gan y frawdoliaeth tua'r ysgubor. Ond nid oedd ein gwrthddrych, mwy na lluaws o'i gydlafurwyr, yn disgwyl am daledigaeth na gwobr i lafur eu cariad, tra ar y ddaear; ac aethant o'r byd