Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/186

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn heb eu cydnabod ganddo. Ond fe ofalodd y meistr a wasanaethent, am eu hamgylchiadau, fel na bu arnynt eisiau dim daioni. Nid oedd y blawd yn y celwrn yn myned fawr yn llai, na'r olew yn yr ysten yn darfod "Canys nid yw Duw yn annghyfiawn, fel yr annghofia efe eu gwaith, a'u llafurus gariad, yr hwn a ddangosasant tuag at ei enw ef, y rhai weiniasant i'r saint."

Ac yr oedd yn rhaid wrth ddynion fel hyn i gyfarfod âg amgylchiadau y dyddiau hyny; dynion cymhwys i arloesi y tir, a digaregu y ffordd, i ddyfodiad dyddiau gwell. Y mae llanw haelioni crefyddol a chymwynasgarwch, wedi codi yn uwch erbyn heddyw, fel nad yw yr hyn a ddisgynai i ran y tadau, yn angenrheidiol yn ein dyddiau ni; y mae trefn pethau hefyd yn newid. Nid oes cymaint o gyniweirio erbyn hyn yn y byd pregethwrol. Ond pan y deuai ar "dro damwain," yn mlynyddau diweddaf oes ein gwrthddrych, ryw frawd yn y weinidogaeth heibio-ceid gweled ar unwaith, nad oedd ei gymwynasgarwch ef wedi pallu, na'i garedigrwydd ef wedi cilio; yr oedd y wên, a'r sirioldeb a belydrai yn ei wynebpryd, a'i ddull serchog yn "ysgwyd llaw," yn ddangoseg (index) o'r hyn oedd yn ei galon. Ond er chwilio am dano yn y "tŷ, ac yn yr ardd"-yr hen gadair freichiau, lle yr arferai eistedd, ei le nid edwyn ef mwy! Ni cheir profi o'i garedigrwydd a'i groesaw mwy o fewneidŷ. Ond "ni chyll efe ei wobr," "Canys pwy bynag a roddo i chwi i'w yfed gwpanaid o ddwfr yn fy enwi, am eich bod yn perthyn i Grist. Yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr."

Ond nid yw yr haelfrydigrwydd a'r cymwynasgarwch hwnw a ddangosid ganddo yn ei dŷ, ond engraifft o'r hyn a ddadblygid yn ei gymmeriad fel

CYMYDOG.

Yr oedd efe yn un a fawr hoffid fel cymydog. Y mae ambell ddyn i'w gael mewn cymydogaeth, mor gyfyng a chrintachaidd ei ysbryd fel y mae yn ddiareb yn mhlith ei gymydogion. Efe a gymer y cwbl, ac a ddeisyf bob caredigrwydd, ond os